Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 7 Gorffennaf 2021.
Diolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Mae mynediad at wasanaethau meddygon teulu yn broblem gynyddol yn Alun a Glannau Dyfrdwy, ac amlygwyd hyn yn yr wythnosau diwethaf—ddwywaith, mewn gwirionedd—ym meddygfa St Mark yng Nghei Connah, lle mae'n amlwg fod yna brinder meddygon, ac yn Queensferry, lle mae practis yn cael ei symud, neu o bosibl yn cael ei symud, i Gei Connah, oherwydd nad yw'r adeilad presennol yn addas at y diben.
Weinidog, gyda hyn mewn golwg, a wnewch chi gyfarfod â'r bwrdd iechyd i fynd i'r afael â'r broblem ym meddygfa St Mark a sicrhau bod ganddynt nifer digonol o feddygon teulu? A wnewch chi hefyd ofyn i'ch swyddogion ymchwilio i'r posibilrwydd o adeiladu canolfan feddygol newydd bwrpasol i wasanaethu Queensferry a'r cymunedau cyfagos?