Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 7 Gorffennaf 2021.
Mae'r amrywiolyn delta yn parhau i ledaenu ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac mewn mannau eraill yng Nghymru, ond ar hyn o bryd mae gan Ben-y-bont ar Ogwr gyfraddau heintio cymharol isel o gymharu â llawer o ardaloedd awdurdodau lleol eraill yng Nghymru. Mae ein rhaglen frechu yn parhau i gynnig y ffordd orau o ymladd y lledaeniad.