4. Datganiadau 90 eiliad

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:44 pm ar 7 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 3:44, 7 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Y penwythnos hwn, cymerais fy nghamau cyntaf ar The Big Walk 2021, taith gerdded a gynhelir gan Prostate Cymru, fel rhan o dîm enwogion Carol Vorderman. Nawr, credaf fy mod yn siarad ar ran pawb yn y Siambr hon pan fynegais fy sioc wrth gael fy ystyried yn rhywun enwog, er imi gael y fraint o gynrychioli pobl Ogwr ers blynyddoedd lawer. Ond y bobl wirioneddol bwysig yn hyn yw'r nifer fawr o bobl sy'n cymryd rhan yn The Big Walk 2021 ym mhob rhan o Gymru, gan gerdded 26 milltir dros fis Gorffennaf, mewn llawer o deithiau cerdded byr neu hir, gan godi arian i gynorthwyo'r ymchwil ac i gefnogi'r holl deuluoedd sy'n wynebu'r effaith y mae diagnosis o ganser y prostad yn ei chael a chodi ymwybyddiaeth hefyd, ac yn aml maent yn ei wneud oherwydd eu bod hwy eu hunain neu rywun y maent yn ei adnabod a'i garu wedi cael y diagnosis hwnnw.

Bydd un o bob wyth dyn—un o bob wyth—yn dioddef gyda iechyd y prostad, ac i'r rheini sydd â hanes teuluol ohono, mae'n cynyddu i un o bob tri. Felly, gall pobl gofrestru o hyd i gerdded 26 milltir dros fis Gorffennaf, a gwneud milltir y dydd neu wneud y cyfan ar unwaith, beth bynnag sy'n gweddu iddynt. Er efallai na fyddwn i gyd yn gallu cerdded gyda'n gilydd eto eleni oherwydd cyfyngiadau COVID, gallwn fod gyda'n gilydd mewn ysbryd bob cam o'r ffordd. Felly, ewch i prostatecymru.com i gael gwybod mwy, a chofrestrwch eich hun hyd yn oed. Yna, ewch am dro, mwynhewch y llwybrau cerdded hardd sydd gennym yma yng Nghymru, a helpwch ni i sicrhau'r gofal, y cymorth a'r sylw meddygol gorau i'r rhai sy'n brwydro yn erbyn y canser mwyaf cyffredin y gwneir diagnosis ohono yn y DU. Diolch i bawb yn Prostate Cymru am yr holl waith a wnânt, ac i'r cerddwyr a'r noddwyr sy'n camu allan i achub dynion yng Nghymru.