6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y rhwydwaith ffyrdd

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 7 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Natasha Asghar Natasha Asghar Conservative 4:50, 7 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Mae gan Gymru beth o'r ansawdd aer gwaethaf yn y DU. Rwyf wedi sôn droeon ers i mi fod yma fod gan Gaerdydd a Phort Talbot lefelau PM10 uwch na naill ai Birmingham neu Fanceinion, ac mae hynny'n gwbl annerbyniol. Mae tagfeydd ar ffyrdd Cymru yn ffactor pwysig yn hyn o beth. Nid yn unig fod traffig sy'n stopio ac ailgychwyn yn gollwng mwy o nwyon tŷ gwydr na thraffig sy'n llifo'n rhydd, mae hefyd yn achosi i fwy o lygredd gronynnol gael ei ollwng. Bydd llif cyson o draffig yn lleihau faint o ronynnau a ryddheir gan draul brêcs a theiars, yn ogystal â chyfyngu ar y carbon deuocsid y mae ceir sy'n cyflymu yn ei gynhyrchu. 

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddatgan argyfwng newid hinsawdd yn 2019. Fodd bynnag, nid ydynt yn darparu'r seilwaith i sicrhau bod cerbydau trydan yn ddewis amgen dilys yn lle rhai sy'n defnyddio tanwydd ffosil. Mae Cymru ar ei hôl hi i raddau helaeth o gymharu â llawer o'r Deyrnas Unedig mewn perthynas â phwyntiau gwefru cyflym ar gyfer cerbydau trydan. Er bod gan yr Alban 7.5 o bwyntiau gwefru cyflym i bob 100,000 o bobl, dim ond 1.8 i bob 100,000 o bobl sydd gan Gymru. Mae eu methiant i fynd i'r afael â newid hinsawdd wedi arwain at adweithiau difeddwl fel rhewi prosiectau adeiladu ffyrdd yn hytrach na gwella trafnidiaeth gyhoeddus a lleddfu tagfeydd ar ffyrdd Cymru.

Dywedodd yr AS Llafur Mark Tami fod penderfyniad sy'n atal cynlluniau ar gyfer cynllun ffordd newydd yn sir y Fflint yn siomedig iawn. Mae gorfodi pobl allan o geir heb ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus ddigonol fel dewis arall yn anymarferol. Mae nifer y teithiau bws lleol yng Nghymru wedi gostwng o 100 miliwn y flwyddyn yn 2016-17 i 89 miliwn yn 2019-20. Gan nad oes gan 80 y cant o ddefnyddwyr bysiau gar at eu defnydd, mae angen i Lywodraeth Lafur Cymru wrthdroi'r duedd hon er mwyn mynd i'r afael â newid hinsawdd ac annog cymudwyr i beidio â defnyddio eu ceir yn y pen draw. Ond rhaid gwneud hyn yn iawn ac nid drwy fyw mewn byd delfrydol, gydag arian yn cael ei daflu at rywbeth heb fawr ddim canlyniad, os o gwbl.

Fel y dywedais yn y ddadl ar wasanaethau bysiau bythefnos yn ôl, nid yw'r grant cynnal gwasanaethau bysiau wedi cynyddu yng Nghymru ers ei sefydlu chwe blynedd yn ôl. Mae'r cyllid fesul teithiwr ar gyfer gwasanaethau bysiau yn annigonol ac yn cymharu'n wael â'r hyn a ddarperir ar gyfer teithwyr rheilffyrdd. Mae'n bosibl bod Greta Thunberg wedi croesawu'r ffaith bod prosiectau adeiladu ffyrdd newydd wedi'u rhewi, ac rydym i gyd yn ei hedmygu am ei chredoau a'i hymroddiad cryf i ymgyrchu yn erbyn newid hinsawdd. Rwy'n cydnabod ei bod yn fodel rôl gwych i fenywod a phobl ifanc ac mae ganddi gredoau angerddol, ond rwy'n cynrychioli barn y rhai sy'n byw yng Nghymru, y rhai sy'n gorfod defnyddio ein ffyrdd is-safonol, a'r rheini na allant ddibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.

Rydym i gyd wedi gweld yr adroddiadau newyddion, ac rwyf wedi cael negeseuon dirifedi gan bobl ledled Cymru—y gogledd, y de, y dwyrain a'r gorllewin—yn mynegi eu dicter a'u siom ynghylch cyhoeddiad y Dirprwy Weinidog. Mae'r Llywodraeth hon yn bwriadu gwario £75 miliwn ar deithio llesol, bron i £29 miliwn ar drafnidiaeth gyhoeddus a £9 miliwn ar seilwaith gwefru di-allyriadau. Mae hyn i'w ganmol, ond beth am y ffyrdd sydd gennym eisoes yma yn awr? Rhaid inni gael rhaglen o welliannau i'n rhwydwaith ffyrdd ac nid moratoriwm. Pan ddeuthum yn Aelod o'r Senedd hon chwiliais am ddogfen—unrhyw ddogfen—i roi rhyw syniad i mi o strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth. Er syndod i mi, ar ôl chwilio ym mhob man a gofyn i nifer o bobl, deuthum o hyd i nifer o adroddiadau gan wahanol bobl a sefydliadau, ond dim byd penodol gan Lywodraeth Cymru am eu cynlluniau hirdymor. Nid oes dim yn ysgrifenedig am uwchraddio'r A55, un o'r ffyrdd pwysicaf yn y Deyrnas Unedig, sydd yno, yn y pen draw, i ddarparu cyswllt hanfodol i boblogaeth gogledd Cymru, a rhwng porthladd prysur Caergybi a ffyrdd prifwythiennol allweddol fel yr M6 a gweddill y Deyrnas Unedig.

Mae angen inni ddeuoli'r A40 i Abergwaun, gan agor y rhanbarth i fuddsoddiad gan fusnesau a chaniatáu mwy o fynediad i dwristiaid. Mae'r A470 yn ddychrynllyd, gydag ond ychydig iawn o leoedd ar gyfer pasio cerbydau arafach. Pe bai hon yn cael ei gwella byddai'n agor canolbarth Cymru ac yn caniatáu ar gyfer cynnydd mewn buddsoddiad yn y rhanbarth, rhywbeth y byddai pawb yn ei groesawu. Pa ystyriaeth a roddwyd i leddfu'r pwysau ar yr M4 drwy adeiladu cyffordd traffordd ar yr M48 lle'r arferai bythau tollau Hafren fod? Yn y pen draw, byddai'r cysylltiad yn lleddfu'r pwysau ar gyffyrdd 23 a 24, gan ddarparu mynediad uniongyrchol i Gyffordd Twnnel Hafren. Pe gallai traffig sy'n mynd i Gaerdydd neu Gasnewydd adael y ffyrdd yng Nghyffordd Twnnel Hafren a bod cymudwyr yn defnyddio'r gwasanaeth trên uniongyrchol i mewn i'r dinasoedd, gallai hyn unwaith eto leihau tagfeydd ar yr M4 yn sylweddol.

Mae'r Dirprwy Weinidog eisoes wedi newid ei feddwl ynglŷn â rhewi gwaith adeiladu ffyrdd drwy ganiatáu i brosiect ffordd osgoi Llandeilo barhau. Honnodd y Prif Weinidog, 'Pan fydd y Llywodraeth hon yn dod i gytundeb gyda phlaid arall, byddwn yn ei anrhydeddu'. Fodd bynnag, yng nghytundeb Llafur-Plaid Cymru ar y gyllideb, cytunwyd ar ffigur o £3 miliwn i gefnogi'r gwaith o lunio a datblygu trydedd bont dros y Fenai, ac eto rydym i gyd yma o hyd, ac nid yw'r drydedd bont wedi'i hadeiladu. Mae taer angen adeiladu ar Ynys Môn, fel sawl rhan o Gymru, er mwyn dechrau lleihau tagfeydd. Beth am brosiectau sy'n galw am gytundebau rhwng nifer o randdeiliaid, megis ffordd osgoi Cas-gwent? A yw'r Dirprwy Weinidog yn mynd i ganiatáu i drafodaethau o'r fath i archwilio dichonoldeb y prosiect fynd rhagddynt neu a fyddant hwythau'n ddarostyngedig i'r rhewi hefyd?

Lywydd, mae dros ddau ddegawd o Lywodraethau Llafur wedi methu mynd i'r afael â thagfeydd ar ein ffyrdd, ac mae safonau gwael trafnidiaeth gyhoeddus Cymru yma i bawb eu gweld. O'r hyn a gesglais, nid oes integreiddio na chynllun cadarn ar waith rhwng polisi a chyflawniad Llywodraeth Cymru. Nid wyf yn amau eu bwriad am un eiliad, ond ni allaf weld y golau ym mhen draw'r twnnel, ac nid oes yr un o'r Gweinidogion wedi fy argyhoeddi fel arall. A dweud y gwir, rwy'n teimlo bod yn well gan Lywodraeth Cymru archwilio trethi ffordd a dirwyon er mwyn datgymell pobl weithgar rhag defnyddio cerbydau preifat. Felly, mae'n bryd cael cyfeiriad newydd, a dyna pam fy mod yn sefyll o'ch blaen chi heddiw i wneud y cynnig. Diolch.