Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 7 Gorffennaf 2021.
Mae cyffyrddiad o'r Jekyll a Hyde am y cynnig hwn, onid oes? Ar y naill law, cytunaf yn llwyr â'r pwyntiau ynghylch llygredd aer, yr angen am fwy o fuddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus, gwella pwyntiau gwefru cerbydau trydan a gweithio gyda gweithredwyr bysiau—maent i gyd yn faterion pwysig iawn. Yna, mae'n ymddangos bod ail a thrydedd ran y cynnig yn tandorri'r rhan gyntaf, wrth sôn am adeiladu ffordd liniaru'r M4, doed a ddelo. Hyd yn oed wrth i Gymru flaenoriaethu trafnidiaeth gyhoeddus, teithio llesol, cerbydau trydan, bydd angen ffyrdd arnom o hyd, Lywydd, ond pam nad yw'r cynnig yn sôn am lonydd blaenoriaeth? Pam nad yw'n sôn am gynlluniau i addasu ffyrdd ar gyfer bysiau a thramiau a cherbydau trydan ac ar gyfer priffyrdd trydan yn unig? Gallai'r ddadl hon fod wedi sbarduno trafodaeth am ddatganoli treth ffyrdd a tholl ar danwydd, am ddatganoli'r ardoll ar gerbydau nwyddau trwm fel y gallem greu ardoll eco newydd yn ei lle yn seiliedig ar ddefnydd o ffyrdd, opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus lleol ac allyriadau. A pham nad yw'r cynnig yn sôn am barthau allyriadau isel yn ein dinasoedd, gan integreiddio'r rhwydwaith teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus, neu'n cynnig syniadau am lonydd beicio mewn ardaloedd cymudo? Gallai'r Ceidwadwyr fod wedi manteisio ar y cyfle hwn i argymell syniadau ar gyfer wynebu argyfyngau'r unfed ganrif ar hugain, yn lle ein llethu gan syniadau o'r ugeinfed ganrif.
Ond mae rhan gyntaf y cynnig, Lywydd, yn codi pryderon hanfodol am lygredd aer—dyna'r hyn rwyf am ganolbwyntio arno. Pan fydd pobl yn siarad am ffyrdd, neu unrhyw brosiect seilwaith mawr, caiff ei wisgo fel arfer mewn iaith am bweru'r dyfodol, y daith i yfory, ond mae ein hobsesiwn cyfunol â choncrit yn golygu mai plant yw'r difrod cyfochrog. Dywedir bod tagfeydd traffig yn tagu prifwythiennau ein gwlad, ond mae hefyd yn tagu ysgyfaint ein plant. Mae'n ein caethiwo mewn dyfodol o fwrllwch a tharmac. Nid anghyfleustra yn unig ydyw, mae'n lladdwr araf. Mae Asthma UK a Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint yn gweithio gyda llawer ohonom ar ymgyrch i gyflwyno Deddf aer glân yng Nghymru. Y rheswm pam ein bod am gael y Ddeddf honno yw bod plant sy'n tyfu i fyny ger y strydoedd mwyaf llygredig bum gwaith yn fwy tebygol o ddioddef am nad yw eu hysgyfaint yn datblygu fel y dylent. Rydym yn byw mewn adeg o bandemig, pan fo feirws anadlol bron â bod wedi dod â'r byd i stop, felly ni ddylem anwybyddu hynny. Gall cysylltiad tymor byr hyd yn oed waethygu cyflyrau fel asthma plentyndod a chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint. Mae cysylltiad hirdymor â nitrogen deuocsid yn gysylltiedig ag afiachusrwydd anadlol cronig—afiachusrwydd cronig. Nid ydynt yn dermau y dylem fod yn eu lleisio'n ysgafn fel pe baent yn dderbyniol neu'n normal, dylent lenwi pob un ohonom â chywilydd. Credir bod asthma ar bron i 10 y cant o'r holl blant sy'n byw yng Nghymru, ac i bawb sy'n byw o fewn 50m i ffordd fawr, mae'r risg o ddatblygu canser yr ysgyfaint yn cynyddu hyd at 10 y cant.
Mae'n gwaethygu, Lywydd. Mae llygredd aer yr un mor ddrwg i fenywod beichiog ag ysmygu. Mae'n cynyddu'r risg o esgor cynamserol a marw-enedigaeth. Os caiff babi ei eni'n gynamserol, gall olygu pwysau geni isel, ysgyfaint nad ydynt wedi datblygu'n ddigonol a gall arwain at farwolaeth babanod yn fuan ar ôl eu geni. Ac mae astudiaethau'n gweld cysylltiad rhwng mygdarth ceir a chamesgoriad. Mae un astudiaeth yn awgrymu y gall mygdarthau o'r fath gynyddu'r perygl o golli beichiogrwydd 16 y cant. Gadewch i ni beidio â diystyru hynny am fy mod wedi dechrau dyfynnu ffigurau. Mae'r rheini'n fywydau nad ydynt yn dechrau. Drwy fethu gweithredu ar lygredd aer, rydym yn gamblo gyda chyfleoedd bywyd cenedlaethau nad ydynt wedi'u geni eto. Rydym yn condemnio plant i dyfu i fyny gydag ysgyfaint diffygiol heb ddatblygu'n llawn. Dylai'r cynnig hwn fod wedi dod i ben gyda'r cymal cyntaf. Dyna'r sgandal. Mae arnom angen Deddf aer glân i Gymru, nid yn y datganiad deddfwriaethol nesaf, nid ymhen ychydig fisoedd, mae arnom ei hangen yn awr, ac mae arnom ei hangen yn ddybryd.