Part of the debate – Senedd Cymru am 5:27 pm ar 7 Gorffennaf 2021.
Diolch, Lywydd. Wrth grynhoi'r ddadl hon, hoffwn ddiolch yn gyntaf i'm holl gyd-Aelodau am y cyfraniadau pwysig a diddorol y maent wedi'u gwneud, a chanmol fy nghyd-Aelod o dde-ddwyrain Cymru am arwain y ddadl hon. Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ymateb.
Seilwaith trafnidiaeth effeithiol, cydgysylltiedig ac integredig yw'r hyn y mae pobl Cymru nid yn unig yn ei haeddu, ond dyna hefyd sydd ei angen arnynt i gyrraedd eu potensial. Y feirniadaeth a gaiff ei chyfeirio'n aml at Lywodraeth Cymru yw bod gormod o sylw i'r Gymru drefol, gan adael y Gymru wledig ar ôl, ac rwy'n teimlo bod hyn yn arbennig o wir mewn perthynas â thrafnidiaeth. Rydym wedi gweld heddiw fod diffyg seilwaith trafnidiaeth yn fater sy'n ein plagio yma yng ngogledd Cymru, yn ne Cymru, yng nghanolbarth Cymru, a minnau yng ngorllewin Cymru hefyd.
Fel y soniwyd, bythefnos yn ôl gwnaeth y Dirprwy Weinidog ddatganiad i'r Senedd yn oedi nifer o brosiectau ffyrdd, gan siomi llawer o gymunedau ledled Cymru. Rwy'n cytuno â fy nghyd-Aelod Peter Fox—pan glywaf 'oedi', credaf mai'r hyn a olygir yw 'wedi'i ganslo', ac os bydd y prosiectau hyn yn cael y golau gwyrdd ac yn mynd yn eu blaenau, byddant yn anochel wedi eu gohirio.
Fodd bynnag, roeddwn yn falch o gael sicrwydd ynglŷn â'r gwaith hirddisgwyliedig i uwchraddio'r A40 yn Llanddewi Felffre, ac y bydd hwnnw'n digwydd. Mae hwn yn gynllun sydd wedi'i drafod ers nifer o flynyddoedd, ac mae wedi wynebu oedi diddiwedd. Edrychaf ymlaen at gael gwybod pryd y bydd y peiriant cloddio wedi torri tir ar y prosiect hwn a phryd y caiff ei gwblhau'n llawn. Yn amlwg, byddai'n well gennyf fi a'r gymuned fusnes weld yr A40 yn cael ei deuoli yr holl ffordd i borthladd Abergwaun, rhywbeth y gwn fod fy nghyd-Aelod Paul Davies yn Preseli Sir Benfro wedi galw amdano ac wedi dadlau drosto ers tro byd. Ond bydd y gwaith uwchraddio cyfredol ar yr A40 yn gwella rhai o'r mannau cyfyng ar y llwybr hwn a achoswyd gan gerbydau nwyddau trwm trawsgyfandirol, carafanau, cerbydau amaethyddol a thraffig arall sy'n symud yn araf wrth deithio ar un gerbytffordd.
Mae angen imi fynegi rhai pryderon ynghylch y llythyr a anfonwyd gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol at y Dirprwy Weinidog ac y derbyniodd yr holl Aelodau gopi ohono, llythyr a oedd nid yn unig yn croesawu oedi'r prosiectau uchod, ond hefyd yn galw am roi ystyriaeth bellach i ailystyried prosiectau a gafodd sêl bendith. Ddirprwy Weinidog, mae digon o ansicrwydd eisoes—peidiwch â chaniatáu i fwy gael ei greu.
Nid yw'r car yn mynd i unman, ond yr hyn sy'n newid yw'r ffordd y caiff ei bweru, ac mae hwn yn bwynt a wnaeth fy nghyd-Aelod Delyth Jewell a Gareth Davies ill dau yn eu cyfraniadau. Rydym ar daith, fel y mae'r Deyrnas Unedig gyfan, i ddileu ein dibyniaeth ar danwydd ffosil, ond mae angen inni sicrhau bod pob cwr o Gymru yn cael eu cefnogi ar y daith hon. Mae gennym ffordd bell i fynd o hyd, ac mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau'r un ffocws ar sicrhau bod gan ardaloedd gwledig yr un mynediad at seilwaith gwefru cerbydau trydanol ag a geir yn y prif ardaloedd trefol. Ac ynglŷn â'r Ddeddf aer glân y soniodd Delyth Jewell a'r Dirprwy Weinidog amdani, ceir cefnogaeth o bob rhan o'r Siambr, a Dirprwy Weinidog, fe fyddwch yn gwthio wrth ddrws agored os yw Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r Bil aer glân hwnnw.
Hoffwn sôn i orffen hefyd pa mor bwysig yw hi i drafnidiaeth gyhoeddus ddiwallu anghenion cymuned wledig. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i dynnu ceir oddi ar y ffordd, ac mae llawer o bobl mewn ardaloedd fel yr etholaeth rwy'n ei chynrychioli heb fod mewn sefyllfa i fod yn berchen ar gar. Mae hyn yn achosi problemau os ydynt yn gweithio y tu allan i oriau gwaith naw tan bump arferol, yn enwedig mewn diwydiannau fel y sector lletygarwch. Cefais fy hysbysu yn ddiweddar mai ychydig ar ôl 6 p.m. y mae'r bws olaf yn gadael Dinbych-y-pysgod yn ôl i Hwlffordd yn sir Benfro ar nosweithiau'r wythnos. Nid yw hynny'n caniatáu i bobl gyfrannu at ein heconomi a datblygu o'i mewn. Mae rhai busnesau mwy o faint yn gallu darparu cludiant i'w staff eu hunain, ond eithriad yn hytrach na'r rheol yw hyn yn aml. Gellir ystyried hyn yn ffactor sy'n cyfrannu at y ffordd y mae busnesau yn y sector yn wynebu heriau cynyddol i lenwi'r swyddi gwag rydym i gyd wedi clywed amdanynt yn ein hetholaethau ein hunain.
Wrth gloi, Lywydd, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig i roi hwb o adrenalin i'n heconomi drwy godi'r droed oddi ar ein corn gwddf economaidd, helpu i lanhau ein haer a chael Cymru i symud unwaith eto. Diolch.