Cwestiynau i Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Part of QNR – Senedd Cymru ar 7 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Baroness Mair Eluned Morgan Baroness Mair Eluned Morgan Labour

Mae ein dull gweithredu ar gyfer gwella diagnosis a thriniaeth canser ar gyfer Cymru gyfan wedi’i nodi yn y datganiad ansawdd ar gyfer canser, a gafodd ei gyhoeddi ar 22 Mawrth 2021, ochr yn ochr â’n cynllun ar gyfer adfer o bandemig COVID. Bydd byrddau iechyd yn ymateb i’r dull hwn drwy eu cynlluniau blynyddol.