Part of the debate – Senedd Cymru am 6:56 pm ar 13 Gorffennaf 2021.
Diolch, Llywydd. Hoffwn i ddiolch i'r holl gydweithwyr am yr hyn sydd wedi bod yn ddadl eang iawn a diolch am y sylwadau yr ydych chi wedi bod yn eu cyflwyno heddiw. Rwyf i'n cytuno y byddai'n wych, yn y dyfodol, i'r ddadl hon gael ei chynnal gan y Pwyllgor Cyllid. Yn amlwg, oherwydd rhesymau ymarferol, nid oedd yn bosibl eleni, ond mae'n galonogol iawn clywed y bydd y pwyllgor yn cynnal ymchwiliad drwy'r hydref. Bydd hynny'n ddefnyddiol iawn o ran ein helpu ni i benderfynu ar y penderfyniadau y mae angen eu gwneud o ran dyraniadau. Unwaith eto, mae'n gadarnhaol iawn y bydd y pwyllgor yn ymgysylltu â phwyllgorau polisi eraill i archwilio meysydd sydd o ddiddordeb ar y cyd a blaenoriaethau ar y cyd. Felly, unwaith eto, arloesedd rhagorol arall, rwy'n credu.
Er ein bod ni'n parhau i wynebu amgylchiadau ansicr a heriol iawn, rydym ni'n croesawu'r syniadau newydd hynny a'r cynigion newydd pa bryd bynnag y maen nhw o fudd i Gymru a'n cymunedau ni. Rydym ni'n Llywodraeth sy'n barod i ymgymryd â chysyniadau arloesol waeth pa blaid wleidyddol sy'n eu cyflwyno. Ni allwn ni ddianc rhag, ac ni allwn ni ychwaith anwybyddu'r penderfyniadau anodd y bydd angen i ni eu gwneud. Ar yr un pryd, ni fyddwn i'n gadael i hyn ddigalonni ein hymgyrch a'n penderfyniad i gyflawni ein hymrwymiadau a gafodd eu hamlinellu yn ein rhaglen lywodraethu uchelgeisiol, a gafodd fandad gan bobl Cymru. Rwy'n ffyddiog bod gennym ni yr offer a'r syniadau i gyflawni'r agenda uchelgeisiol hon yr ydym ni wedi ei gosod ar gyfer ein hunain. Byddaf i'n defnyddio ein paratoadau i archwilio'r holl ysgogiadau sydd ar gael i ni i sicrhau bod y cyllid sydd ar gael yn cael yr effaith fwyaf bosibl, boed hynny drwy roi mwy o werth ar effeithiau cymdeithasol a chontractau caffael, neu fodelau cyllid ad-daladwy sy'n canolbwyntio yn fwy ar fusnes i'r rhaglenni a'r prosiectau yr ydym ni'n eu cefnogi.
Rwy'n ddiolchgar i'm cyd-Aelodau am yr holl sylwadau. Ni fyddaf i'n ymateb yn fanwl, oherwydd nad dyna bwrpas y ddadl heddiw; mae'r ddadl heddiw yn ymwneud mewn gwirionedd â gwrando a chithau'n cael cyfle i nodi eich blaenoriaethau chi. Ond rwyf i eisiau rhannu rhai o'r pethau gyda chi yr wyf yn credu fy mod i wedi eu clywed o'r drafodaeth heddiw. Un ohonyn nhw yw y dylem ni ganolbwyntio yn ddi-baid ar adferiad, o ran unigolion a threchu tlodi, ond hefyd o ran diogelu ein gwasanaethau cyhoeddus gwych, gan gynnwys y GIG ac, wrth gwrs, llywodraeth leol, a gweithio i sicrhau nad yw'r bobl hynny sydd wedi cael eu taro galetaf gan y pandemig yn cael eu gadael ar ôl yn yr adferiad. Mae'r pwyntiau a gafodd eu gwneud am ran addysg a chefnogi teuluoedd sy'n cael trafferthion wedi eu clywed yn dda yn y fan yna
O ran iechyd a gofal cymdeithasol, rwyf i wedi clywed bod awydd i gefnogi'r gweithlu, cymorth i ofalwyr a hybu iechyd a lles, a hefyd pwyslais gwirioneddol ar wasanaethau cymdeithasol cynaliadwy. O ran tai, mae awydd i ymdrin â'r materion hynny sy'n ymwneud â'r farchnad ei hun, i ymdrin â'r angen i adeiladu mwy o dai ac ymdrin â digartrefedd, gyda'r canolbwyntio dwysach hwnnw ar atal hynny rhag digwydd. O ran ymdrin â newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth, roedd angerdd gwirioneddol dros hynny, rwy'n credu, ledled y Siambr y prynhawn yma. A llawer o sylwadau o ran sut y gallwn ni gefnogi'r economi, pa un ai yw honno'n tyfu mewn meysydd lle yr ydym ni'n datblygu arbenigedd gwirioneddol yma yng Nghymru, fel y sector gwasanaethau ariannol, neu gefnogi ein heconomi wledig, neu nodi a datblygu'r rhan bwysig sydd gan ein sector cerddoriaeth, diwylliant a threftadaeth yn yr economi, ond hefyd o ran ein diwylliant a'n bywyd cymdeithasol. Mae'r holl bwyntiau hynny, yn fy marn i, wedi cael eu gwneud yn dda iawn y prynhawn yma.
Rwyf hefyd eisiau dweud rhywbeth yn fyr iawn ynghylch yr adnoddau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru, oherwydd, wrth gwrs, mae angen y cyllid arnom ni i droi'r dyheadau hyn yn bethau a fydd yn gwneud gwahaniaeth ac yn gwneud gwahaniaeth ym mywydau pobl yma yng Nghymru. Ond rwyf i eisiau sôn am yr effaith y bydd penderfyniad Llywodraeth y DU ynglŷn â'r gronfa codi'r gwastad yn ei gael arnom ni yma yng Nghymru a'n cyllideb ni a'r hyn y gallwn ni ei wneud. Mae'r cronfeydd strwythurol a buddsoddi Ewropeaidd werth £375 miliwn bob blwyddyn i Gymru dros saith mlynedd. Pe byddem ni wedi aros yn yr UE, byddai Cymru wedi cael dyraniad ariannol blwyddyn lawn yn dechrau o fis Ionawr 2021 ar gyfer rhaglenni newydd, waeth beth fo'r taliadau parhaus o gyllideb yr UE ar gyfer ymrwymiadau presennol a gafodd eu gwneud yn ystod y cylch presennol o raglenni'r UE. Yn 2021-22, rydym ni'n amcangyfrif y bydd Cymru'n cael £30 miliwn i £50 miliwn o'r gronfa codi'r gwastad a'r gronfa adnewyddu cymunedol, gan nodi bod y ddwy hyn, wrth gwrs, yn gystadleuol, ac mae hyn yn creu toriad enfawr i gyllideb Llywodraeth Cymru, gan wneud i gynghorau lleol gystadlu am rywfaint o'r arian hwnnw. Ac mae wedi cael ei werthu i bobl yng Nghymru fel buddsoddiad mewn codi'r gwastad, ond a dweud y gwir, os nad yw'r bwlch yn cael ei lenwi, bydd Cymru o dan anfantais arall o ran ymdrin â'n heriau economaidd.
Mae cynlluniau Llywodraeth y DU yn peryglu rhaglenni hanfodol i Gymru gyfan a fydd yn ganolog i adferiad, er enghraifft, Busnes Cymru a'r banc datblygu, yn ogystal â chynlluniau cyflogadwyedd allweddol fel y prentisiaethau a'r hyfforddiaethau sydd wedi'u hintegreiddio i'r sefyllfa economaidd yng Nghymru dros nifer fawr o flynyddoedd. Felly, dyna sydd mewn perygl yn y fan yma hefyd.
Ac rwyf i eisiau dweud rhywbeth ynghylch yr adnoddau sydd ar gael o ran cyllid ffermydd a physgodfeydd hefyd. Dim ond £400 miliwn y byddwn ni'n ei gael—. Mae'n ddrwg gennyf i, esgusodwch fi, byddwn ni ond yn cael £242 miliwn o gyllid newydd ar gyfer y polisi amaethyddol cyffredin o'r DU, gan adael Cymru £137 miliwn yn brin o'r cyllid yr oeddem ni'n disgwyl ei gael eleni. Ac rydym ni'n anghytuno'n llwyr ag awgrym Llywodraeth y DU eu bod wedi cyflawni eu rhwymedigaethau i ddarparu cyllid newydd i ffermwyr a datblygu gwledig drwy gyfuniad o gyllid newydd o'r adolygiad o wariant, a gweddill cyllid yr UE yng Nghymru o £95 miliwn a throsglwyddiad o £42 miliwn o golofn i golofn. Pe byddai Llywodraeth y DU wedi darparu setliad ariannol rhesymol ac amlflwydd y llynedd, yna byddem ni wedi bod mewn gwell lle i ystyried y gefnogaeth i'r trefniadau hyn.
Felly, dyma rai o'r heriau gwirioneddol yr ydym ni'n ymdrin â nhw ar hyn o bryd, ac a fydd yn anochel yn cael effaith barhaus ar ein cyllideb yn y dyfodol hefyd.
Felly, hoffwn i ddweud wrth gloi, fy mod i yn croesawu'r ddadl. Rwy'n credu ei bod yn dangos bod gan bob un ohonom ni ran i'w chwarae o ran sicrhau ein bod ni'n gweithio gyda'n gilydd i godi'r Gymru decach, wyrddach a mwy ffyniannus honno. Diolch i bob cyd-Aelod am eu cyfraniadau.