Part of the debate – Senedd Cymru am 6:02 pm ar 13 Gorffennaf 2021.
Diolch, Llywydd. Gan barhau â thraddodiad y weinyddiaeth flaenorol, mae'n bleser gennyf i amlinellu'r paratoadau ar gyfer cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23. Mae'r ddadl flynyddol hon wedi dod yn ddigwyddiad pwysig yng nghalendr y Senedd, gan roi cyfle cynnar i edrych ymlaen at flaenoriaethau gwario'r flwyddyn nesaf, ac, yn bwysig, rhoi cyfle i Aelodau lunio'r paratoadau hynny. Fel Llywodraeth Cymru, rydym ni wedi cael mandad clir gan bobl Cymru yn dilyn yr etholiad, mandad i gyflawni'r ymrwymiadau a gafodd eu hamlinellu yn ein rhaglen lywodraethu uchelgeisiol. Ond rydym ni'r un mor glir nad oes gennym ni fonopoli ar syniadau da. Fel y dywedodd y Prif Weinidog eisoes, byddwn ni'n ystyried syniadau newydd a chynigion newydd o ble bynnag y byddan nhw'n dod yn y Siambr hon, pryd bynnag y maen nhw o fudd i Gymru a'n cymunedau ni. Ac yn yr ysbryd hwnnw yr wyf i'n agor y ddadl heddiw.
Cyn amlinellu ein dull gweithredu, mae'n bwysig ein bod ni'n cydnabod y cyd-destun ehangach yr ydym ni'n ymgymryd â'r paratoadau hyn ynddo. Mae'n anffodus bod yr hyn y byddem ni wedi'i ystyried yn rhyfeddol wedi dod yn gyffredin. Mae'r heriau sy'n ein hwynebu ni'n sylweddol. Maen nhw'n cynnwys effeithiau parhaus y DU yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, yr angen dybryd i ymateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur, yn ogystal ag effeithiau dinistriol y pandemig ei hun.
Bydd effeithiau'r heriau hynny'n sylweddol. Yn ystod y pandemig, bydd o leiaf ddwy flynedd o dwf cynnyrch domestig gros yn cael ei golli, ac efallai na fydd llawer ohono byth yn cael ei adennill. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn credu y bydd y pandemig yn lleihau cynnyrch domestig gros 3 y cant yn barhaol. Mae busnesau Cymru nawr yn dechrau gweld llawer o'r gwir gostau yn sgil y DU yn ymadael â'r UE. Bydd colli'r £375 miliwn o gyllid yr UE y flwyddyn i Lywodraeth Cymru yn arwain at oblygiadau difrifol i fusnesau, unigolion a'n gwasanaethau cyhoeddus craidd yng Nghymru. Rydym ni'n gwybod bod effaith y pandemig wedi disgyn yn anghymesur ar y rhai mwyaf agored i niwed, ac rydym ni'n gwybod bod y Pwyllgor Newid Hinsawdd wedi amcangyfrif y gallai'r buddsoddiad ychwanegol sy'n ofynnol yng Nghymru gyfan godi i dros £2 biliwn erbyn 2030 i ymdrin â'n hanghenion datgarboneiddio, heb gynnwys costau ymaddasu na'r bygythiad i fioamrywiaeth.
Mae'n amlwg bod cyd-destun cyllidol y pandemig wedi gwanhau cyllid cyhoeddus. Mae'r Resolution Foundation yn amcangyfrif y bydd gwariant adnoddau adrannol nad ydyn nhw wedi'i gwarchod 24 y cant y pen yn is mewn termau real yn 2024-25 nag yn 2009-10. Y tu hwnt i'r adolygiad nesaf o wariant, mae dadansoddiad y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn tynnu sylw at bwysau hirdymor difrifol, wedi'u hysgogi gan newid demograffig a chostau cynyddol gofal iechyd. Heb ymdrin â hyn, byddai'r pwysau yn gwthio dyled Llywodraeth y DU yn anghynaliadwy i fwy na 400 y cant o'r cynnyrch domestig gros 50 mlynedd o hyn ymlaen.
Rydym ni hefyd yn wynebu ansicrwydd parhaus ynghylch amseriad adolygiad o wariant Llywodraeth y DU ac a fydd y Canghellor yn wir yn cadw at ei addewid o ddarparu setliad amlflwydd. Tan fod hyn yn dod i ben yn yr hydref, rydym ni'n gorfod ymgymryd â'n paratoadau heb wybodaeth benodol o ran ein setliad. Yn y cyd-destun hwnnw, byddwn ni'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gadarnhau ei bwriadau ar frys cyn gynted â phosibl.
Rwy'n ddiolchgar am gydnabyddiaeth y Pwyllgor Cyllid o'r cyd-destun heriol hwn. Rwy'n bwriadu dilyn arfer diweddar a chyhoeddi cyllideb ddrafft amlinellol ac adrannol gyfunol ar 20 Rhagfyr a'r gyllideb derfynol ar 1 Mawrth. Rwyf i'n llwyr gydnabod yr effaith a gaiff yr amserlen hon, yn enwedig ar awdurdodau lleol a'r trydydd sector, yn ogystal â'r effaith a gaiff hyn o ran craffu ar ein cynlluniau yn y Senedd. Wrth nodi'r cynllun hwn, rwyf i eisiau cadw cydbwysedd gofalus o sicrhau y gallwn ni wneud ein paratoadau'n effeithiol gan roi cymaint o sicrwydd ag y gallwn ni i bartneriaid a sicrhau gymaint o amser â phosibl i graffu arno yn y Senedd.
Wrth baratoi ar gyfer yr heriau sydd i ddod, rhaid i ni barhau i sicrhau bod ein cyllid sydd ar gael yn cael yr effaith fwyaf posibl ar flaenoriaethu'r gwaith o gyflawni ein rhaglen lywodraethu uchelgeisiol, ac yn yr ysbryd hwnnw, rwyf i eisiau cydnabod gwaith diflino ein partneriaid yn ystod y pandemig. I gydnabod y gwaith hwnnw, rwyf i eisiau cadarnhau heddiw y bydd cyllid ar gyfer iechyd, gofal cymdeithasol a llywodraeth leol yn parhau i fod yn flaenoriaeth graidd i'n paratoadau ar gyfer y gyllideb.
Rydym ni eisoes wedi datgan ein huchelgais i ddarparu setliadau amlflwydd os ydym ni mewn sefyllfa i wneud hynny gan Lywodraeth y DU. Ar y sail bod Llywodraeth y DU yn cadw at ei haddewid, yr ydym ni'n ymgymryd â'n paratoadau ein hunain i'n galluogi ni i ymateb. Yng nghyd-destun adolygiad effeithlonrwydd y DU yn arwain at ganlyniad llai ffafriol, ni allwn ni anwybyddu'r cyd-destun hynod heriol yr ydym ni'n ei wynebu a'r dewisiadau anodd sy'n deillio ohono. Ond ni fyddwn ni'n gadael i'r heriau hyn ddanto ein huchelgais. Mae cyfnodau anodd yn galw am ddewisiadau anodd a dyna pam y byddwn ni'n defnyddio'r gwaith o ddatblygu strategaeth buddsoddi seilwaith 10 mlynedd newydd Cymru, yr wyf i'n bwriadu ei chyhoeddi ochr yn ochr â'n cyllideb ddrafft ar gyfer 2022-23, i lunio'r gwaith pwysig y mae angen i ni ei wneud yn y blynyddoedd i ddod i gryfhau'r cysylltiad rhwng seilwaith a'r angen i ymdrin â'r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth. Byddwn ni'n ystyried pob dull sydd ar gael i ni, ond yr ydym ni hefyd yn parhau'n ymrwymedig i addewidion ein maniffesto. Rwyf i wedi ymrwymo i barchu'r addewid maniffesto y gwnaethom ni i beidio â chodi cyfraddau treth incwm Cymru wrth i effaith economaidd y pandemig barhau i gael ei theimlo.
Gwn fod llawer iawn o ddiddordeb yn y gyllideb hon. Yn debyg i flynyddoedd blaenorol, rwy'n bwriadu ymgysylltu â grwpiau o bob rhan o fywyd cyhoeddus yng Nghymru. Gobeithio y bydd yr Aelodau'n manteisio ar y cyfle i siarad â'u rhwydweithiau eu hunain i ystyried a chyflwyno syniadau arloesol a newydd i ateb yr heriau y mae'n rhaid i ni eu hwynebu. Mae Llywodraeth Cymru wedi cael mandad clir a beiddgar: creu Cymru decach, wyrddach a mwy ffyniannus. Bydd ein cyllideb y flwyddyn nesaf yn ein cefnogi ni ar hyd y llwybr hwnnw i gyflawni ein rhaglen lywodraethu, ac, yn y gwaith hwnnw, rwyf i eisiau gwrando ar gyd-Aelodau a gweithio gyda nhw o bob rhan o'r Siambr hon, ac rwy'n edrych ymlaen at y ddadl heddiw. Diolch.