Cymru ac Affrica

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 13 Gorffennaf 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 1:43, 13 Gorffennaf 2021

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, fel y cyfeiriasoch ato yn ein hymateb cyntaf, mae Cymru ac Affrica yn ymwneud â llawer mwy na masnach. Mae Oxfam Cymru, drwy eu partneriaid yn Uganda, wedi cael gwybod bod achosion COVID-19 wedi cynyddu gan dros 1,000 y cant fis diwethaf, ac mai dim ond 4,000 o bobl sydd wedi cael eu brechu yn llawn mewn poblogaeth o 45 miliwn. Sut mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei llais i wthio Llywodraeth y DU i rannu gwybodaeth am frechlynnau a thechnoleg sy'n achub bywydau gyda gwledydd incwm isel fel Uganda?