Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 13 Gorffennaf 2021.
Llywydd, diolch i Rhys ab Owen am y cwestiwn. Cyngor Caerdydd sy'n gyfrifol am benderfynu ar ganiatâd hysbysebu yn y ddinas. Mae'r penderfyniad yn agored i adolygiad barnwrol ar hyn o bryd. Oherwydd rôl bosib Gweinidogion Cymru mewn penderfyniadau cynllunio, y cyngor dwi wedi ei gael yw: nid yw'n briodol trafod yr achos hwn nac achosion eraill.