Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 13 Gorffennaf 2021.
Prif Weinidog, er mai Caerffili sydd â'r gyfradd uchaf ond un o achosion newydd o'r amrywiolyn, fel yr ydych chi newydd ei amlinellu, o ganlyniad i'r brechlyn, nid yw hyn yn arwain at gynnydd sydyn yn ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan ar hyn o bryd, wrth i saith derbyniad yn unig brofi'n bositif am COVID-19. Rydych chi newydd ddweud wrthym ni fod 760 o achosion yng Nghymru gyfan, allan o boblogaeth o 3 miliwn. Prif Weinidog, pa lefelau o achosion fyddai'n dderbyniol ar gyfer rhyddhau'r holl gyfyngiadau?