Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 13 Gorffennaf 2021.
Mae lefelau tlodi yng Nghymru wedi eu gwaethygu gan weithredoedd Llywodraethau Ceidwadol olynol ers 2010. Bydd y penderfyniad i beidio ag ymestyn yr ychwanegiad wythnosol o £20 at gredyd cynhwysol o fis Medi ymlaen yn amddifadu miloedd o deuluoedd yng Nghymru pan fydd angen cymorth arnyn nhw fwyaf. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i liniaru'r datblygiadau hyn i'r graddau llwyraf posibl.