Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 13 Gorffennaf 2021.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae ein rhaglen frechu yn parhau i wneud cynnydd rhagorol ledled Cymru. Heddiw, mae 73 y cant o bobl 18 oed a hŷn yng Nghymru wedi cael dau ddos o frechlyn COVID-19, a dyna'r gyfradd uchaf yn unrhyw fan yn y Deyrnas Unedig.