Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 13 Gorffennaf 2021.
Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd John Griffiths ynghylch pwysigrwydd parhaus dosbarth cymdeithasol wrth bennu cyfleoedd pobl mewn bywyd yng Nghymru. Nid mater o ddosbarth yn unig ydyw, fel y gwyddom; mae'n aml yn fater o ryw ac ethnigrwydd hefyd. Mae John Griffiths yn iawn, wrth gwrs, Llywydd, fod tystiolaeth gronnol o'r heriau y mae dynion gwyn ifanc dosbarth gweithiol yn eu hwynebu wrth sicrhau dyfodol economaidd i'w hunain, ac yn sicr mae angen ymdrechion ychwanegol ar fenywod ifanc i sicrhau eu bod yn gwybod bod yr ystod ehangaf o bosibiliadau ar gael iddyn nhw yma yng Nghymru.
Mae'n debyg na allaf i ymdrin â'r holl feysydd polisi y tynnodd yr Aelod sylw atyn nhw, Llywydd, ond i ddynion ifanc, rwyf i wedi meddwl erioed bod y cyfnod sylfaen a'r rhaglen Dechrau'n Deg yn enghraifft wirioneddol o'r hyn yr ydym ni'n cyfeirio ato fel cyffredinoliaeth flaengar yng Nghymru. Ceir y cyfnod sylfaen, gwasanaeth cyffredinol sydd wedi ei gynllunio i wneud i bobl ifanc o'r oedran cynharaf posibl fod wrth eu boddau â'r syniad o fynd i'r ysgol a dysgu—bod dysgu i'w fwynhau ac i fod yn werth chweil. I'r bechgyn hynny sy'n dod o'r cefndiroedd y mae'r Aelod wedi cyfeirio atyn nhw, mae'r cyfnod sylfaen, yn fy marn i, mor bwysig i wneud iddyn nhw deimlo o ddechrau cyntaf eu bywydau y bydd yr ysgol yn rhywbeth y byddan nhw'n cael llawer o fudd ohoni ac a fydd yn rhoi'r cyfleoedd hynny iddyn nhw.
I fenywod ifanc, fel y dywedais i, mae'n rhaid i ni wneud mwy i sicrhau nad ydyn nhw'n wynebu cyfres o ddewisiadau y gallan nhw eu gwneud sy'n ystrydebol o ran rhyw. Yn gynharach eleni, ym mis Ebrill, fe es i gyda'r Aelod dros Flaenau Gwent i Thales yn ei etholaeth ef a chlywais stori wych am y ffordd y mae'r cwmni hwnnw yn sicrhau bod menywod ifanc yn yr ardal honno yn gwybod bod gyrfaoedd ar eu cyfer nhw yn y diwydiannau newydd hynny. Cafodd y rhaglen ei harwain gan ddwy fenyw ifanc wych, a eglurodd wrthym ni bopeth yr oedden nhw'n ei wneud i sicrhau bod y cyfleoedd hynny yn hysbys i fenywod ifanc yn etholaeth Blaenau Gwent.
I ddynion ifanc a menywod ifanc, bydd y warant cyflogaeth ieuenctid y mae'r Llywodraeth hon yn ei chynnig yn floc adeiladu sylfaenol o ran sicrhau, wrth i'r economi adfer ar ôl canlyniadau economaidd y coronafeirws, nad yw'r bobl ifanc hynny y mae John Griffiths yn cyfeirio atyn nhw yn cael eu gadael ar ôl, bod ganddyn nhw gyfleoedd gwirioneddol, ein bod ni'n gweithio gyda nhw i sicrhau y gallan nhw weld cadwyn—cadwyn o ble y mae eu bywydau heddiw i ble yr hoffen nhw i'w bywydau fod yn y dyfodol.