Part of the debate – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 13 Gorffennaf 2021.
Oherwydd dyw'r setliad datganoledig presennol ddim yn gynaliadwy. Mae e'n ddarostyngedig i fympwy Llywodraeth San Steffan. Dim ni sy'n sofran; Llywodraeth San Steffan sydd o hyd yn dweud eu bod nhw'n sofran. Dylai'r sofraniaeth fod fan hyn gyda phobl Cymru. Mae power grab Llywodraeth Boris Johnson yn gonsýrn i nifer ohonom ar draws y pleidiau. Roedd y TUC yn ddiweddar wedi dweud eu bod nhw'n cael comisiwn i edrych i gael rhagor o bwerau i Gymru, oherwydd bod consýrn mawr gyda nhw am y power grab o Lywodraeth San Steffan, a hynny yn tanseilio hawliau gweithwyr fan hyn yng Nghymru.
Rŷn ni'n gwybod, onid ydym, beth yw cynlluniau y Torïaid yn Llundain, a dwi'n gobeithio bod y Torïaid fan hyn yng Nghaerdydd yn mynd i sefyll lan a mentro i fod yn wahanol i'r Torïaid yn Llundain. Mae Mr Millar yn dweud y dylem ni ganolbwyntio ar faterion cyfansoddiadol, ond hynny o blaid yn Llundain sy'n gosod baner yr undeb dros wyth llawr yng nghanol Caerdydd, a hynny o blaid hefyd sydd yn beirniadu Llywodraeth Cymru am annog ei gweithwyr i ddysgu 'Bore da' a sut i ddweud 'Llanelli' yn iawn. Rŷn ni'n gwybod beth mae'r Llywodraeth yn San Steffan yn ceisio ei wneud; dyna pam fod rhaid inni gael confensiwn cryf fan hyn yn Nghymru i gryfhau ein setliad datganoli.
Ychydig o gwestiynau yn gyflym. Sut ydych chi'n mynd i sicrhau eich bod chi'n cael yr ystod eang iawn o bobl, sy'n cynnwys busnesau, undebau llafur ac aelodau o'r gymdeithas ffydd? I fod yn onest, dyna oedd methiant mawr comisiynau y gorffennol; doedden nhw ddim yn gynrychioladol o bobl Cymru.