Part of the debate – Senedd Cymru am 3:52 pm ar 13 Gorffennaf 2021.
Rwy'n diolch am y sylwadau a'r safbwyntiau hynny, ac mae bob amser yn bleser clywed rhywun yn dyfynnu am y Magna Carta ac am sofraniaeth a gwreiddiau sofraniaeth. Rwy'n sylwi ar eisteddle'r Llywydd, a dyna ble mae'r byrllysg, symbol o sofraniaeth. Wrth gwrs, arf oedd y byrllysg, sy'n dangos, mae'n debyg, o ble y daeth sofraniaeth yn wreiddiol: y sawl oedd â'r arf mwyaf. Ond nid awn ar ôl hynny. Y pwynt yr ydych chi'n ei wneud o ran sut, pryd a pham: dyna'r heriau gwirioneddol. A gwrandewch, fe fyddwn i'n ffŵl i ddweud, 'Mae gennyf yr holl atebion nawr, a'r darlun cyflawn o sut yn union y bydd hyn yn gweithio.' Mae ystyriaeth ddofn yn digwydd yma; fe fydd yna lawer o ymgysylltu â chi yn y fan hon unwaith eto, ac rwy'n sicr yn cytuno, erbyn diwedd yr haf neu erbyn inni ddychwelyd i'r fan hon, y byddwch chi'n disgwyl imi allu cyflwyno darlun sy'n gwneud cyfiawnder â'r holl egwyddorion a'r ymrwymiadau a nodais i heddiw, a hynny'n gwbl briodol.