Part of the debate – Senedd Cymru am 3:31 pm ar 13 Gorffennaf 2021.
Sut ydych chi'n mynd i allu sicrhau, pan fydd pethau'n symud yn gyflym, bod y confensiwn yn aros yn berthnasol?
Ac yn olaf, dwi wedi codi'r pwynt am bwysigrwydd annibyniaeth yn rhan o'r cwestiwn. Faint o gefnogaeth ydych chi wedi'i chael oddi wrth eich plaid yn Llundain ac oddi wrth Lywodraeth San Steffan tuag at y confensiwn yma?