Part of the debate – Senedd Cymru am 3:32 pm ar 13 Gorffennaf 2021.
Rwy'n diolch i'r Aelod am ei sylwadau ef. Mae'n iawn i ddweud bod rhai ohonom ni sydd â chefndiroedd cyfreithiol yn hoffi ymroi i fanylion cyfansoddiadau a hollti blew cyfreithiol. Er mor bwysig ydyn nhw o fewn gweithrediad senedd, a deddfwrfa yn arbennig felly, mae'n rhaid i hanfod newid, a hanfod penderfynu ar y math o newid y gallem ni ei ragweld i Gymru, sut y gallem lywodraethu yn well ac mewn ffordd amgen, fod yn rhywbeth sy'n eiddo i bobl Cymru. Mae'n rhaid iddo fod yn eiddo i bobl Cymru, ac mae hynny'n golygu bod yn rhaid i'r iaith fod yn iaith sy'n ymwneud â bywydau pobl, neu fel arall nid wyf yn credu y byddan nhw'n ymgysylltu.
Rwyf wedi dweud o'r blaen fy mod i o'r farn, pan edrychwn ni ar lywodraethu, fod gennym ddemocratiaeth mewn argyfwng, lle mae cymaint o bobl wedi ymddieithrio oddi wrth brosesau gwleidyddol neu fod ganddyn nhw gyn lleied o hyder ynddyn nhw, fel rydym ni'n ei weld o niferoedd y rhai sy'n pleidleisio mewn etholiadau. Rwy'n credu bod y pwyntiau a wnewch chi'n hollol gywir o ran sut y byddwn ni'n llunio fframwaith, cylch gorchwyl, sy'n ddigon eang i ehangu cwmpas y dadleuon er mwyn i bobl ymgysylltu, a bod â rhan, i ystyried pob dewis, ond eto, serch hynny, fe fydd yn canolbwyntio ar nifer o bwyntiau allweddol. Sut Gymru yr hoffech chi ei gweld? Beth ddylai dyfodol Cymru fod? Beth yw ein gwerthoedd ni? Beth ddylai ein perthynas ni ag eraill fod yn y dyfodol? Efallai fod hynny o ran amrywiaeth eang o ganlyniadau. Beth ddylai ein perthynas ni â Llywodraeth y DU fod, ac â gwledydd eraill o'n hamgylch ni? Rwy'n credu bod y rhain i gyd yn faterion cymhleth iawn y mae angen eu rhoi at ei gilydd. Ac mae hwnnw'n orchwyl anodd iawn. Fel y dywedais i, dyma un o'r heriau mawr, oherwydd mae'n rhaid i'r confensiwn hwn, y comisiwn hwn, fod yn rhywbeth sy'n wahanol iawn. Dyma gam tuag at ddyfodol Cymru.
Rydych chi'n codi, a hynny'n gwbl briodol, enghreifftiau mewn mannau eraill, oherwydd nid ni yw'r unig rai. Mae llawer o wledydd eraill yn wynebu heriau o'r fath yn eu cymdeithas nhw, eu democratiaeth nhw, eu llywodraethu nhw. Roeddech chi'n sôn am yr Alban; mae gan yr Alban ddiddordeb mawr yng nghyhoeddiad buan yr adroddiad hir sefydlog yno o waith cynulliad dinasyddion yn yr Alban, a ariannwyd ac a gefnogwyd gan Lywodraeth yr Alban dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Rwy'n credu y daw gwersi i ni o'r fan honno, yn ddigon posibl. Yn sicr, fe ddaw gwersi o rai o'r prosesau yn Iwerddon a'r Ffindir, ac o sawl rhan arall o'r byd, mae'n siŵr. Mae'n ddiddorol iawn gweld datblygiadau yng Nghatalonia, yn Sbaen, lle maen nhw'n symud tuag at system lle maen nhw'n sôn am wneud hynny erbyn hyn, gyda'r bwriad o ymgysylltu â phobl ynglŷn â'r hyn y mae'r bobl yng Nghatalonia yn ei ddymuno mewn gwirionedd, gyda golwg ar refferendwm yn y fan honno, yn ddiamau. Ond y gwir amdani yw bod pobl yn dechrau dweud bod yn rhaid cael cydsyniad y bobl, mae'n rhaid cael cefnogaeth y bobl i weld newid sy'n wirioneddol radical a hir sefydlog.
Roeddech chi'n cyfeirio at gomisiwn TUC Cymru; rwy'n credu bod hwnnw'n gam cadarnhaol iawn, ac rwy'n credu ei fod yn dangos arweiniad effeithiol a deinamig iawn yn edrych ar yr holl faterion hynny, y mae cymaint ohonyn nhw wedi codi yn ystod COVID. Onid yw'n beth rhyfedd, mewn llawer o ffyrdd, mai un o'r amheuon ynglŷn â'n setliad datganoli yw cyfle cyfartal, pan fo cymaint o'n gwaith ni'n ymwneud â chydraddoldeb a chyfle cyfartal? Ar fater y cyfyng gyngor o ran y canfyddiad ledled y DU, roeddech chi'n sôn am enghraifft y baneri, ac nid wyf yn awyddus i gael y ddadl honno eto. Ond mae'n ymddangos i mi mai dyma'r neges: mae gennych adeiladau—dyweder, adeiladau treth, Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi—a nodir fel 'Llywodraeth y DU yng Nghymru' neu 'Lywodraeth y DU yn yr Alban', ond yn Lloegr dim ond 'Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi' ydynt. Pam nad ydyn nhw'n cael eu nodi fel 'Llywodraeth y DU yn Lloegr'? Rwy'n credu bod hynny'n rhoi neges benodol, sy'n nodi rhan o'r broblem benodol honno.
Sut i adeiladu'r comisiwn a'i wneud yn gynrychioliadol? Nid wyf i'n hollol siŵr a ddylwn i ddefnyddio cyfatebiaeth o'r byd pêl-droed, ond rwy'n credu mewn gwirionedd ei fod yn fater o geisio gweithio allan sut mae adeiladu'r garfan y byddech chi'n ei dymuno, a beth yw maint y tîm yr ydych chi'n awyddus i'w gael i wneud hynny, a'r dulliau o ddewis. Rwy'n credu y bydd amrywiaeth y garfan yn debygol o fod yn briodol, ac mae'n amlwg y byddwn ni'n chwilio am sêr, fel Gareth Bale, yn ystod y broses ymgysylltu dinesig.
O ran parhau i fod yn berthnasol a'r dibenion i'r dyfodol, rwy'n credu fy mod yn eglur iawn yn fy meddwl i nawr fod yn rhaid cael cam pellach, sef, pan fydd yr argymhellion wedi eu gwneud, pan gaiff yr adroddiad ei lunio, pan allwn weld casgliadau'r gwaith pwysig sydd wedi ei wneud, fe ddylid ystyried hefyd yr argymhellion ynghylch sut y gellir bwrw ymlaen â'r rhain—sut y gallech sefydlu, efallai, gomisiwn sefydlog a fyddai'n cyflawni'r argymhellion hyn mewn gwirionedd. Felly nid yw'n fater o gael proses o 18 i 24 mis ac anghofio amdani wedyn a cheisio, ymhen ychydig flynyddoedd, gwneud yr un peth eto. Mae'n rhaid i hon fod yn broses sy'n arwain at gasgliad yn y pen draw. Fel y dywedais, rwyf i o'r farn fod newid yn anochel, ac rwyf i o'r farn mai'r rhain yw'r mecanweithiau y gallwn eu defnyddio i greu consensws ar gyfer y newid hwnnw, a gwneud i newid ddigwydd.