Part of the debate – Senedd Cymru am 4:03 pm ar 13 Gorffennaf 2021.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael y cyfle heddiw i roi diweddariad i’r Senedd ar y camau nesaf y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wireddu strategaeth Cymraeg 2050. Mae'r daith i gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr a dyblu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg erbyn 2050 wedi cydio yn nychymyg pobl ar hyd a lled Cymru ers i’r Llywodraeth ddiwethaf wneud ei chyhoeddiad nôl yn 2017. Rwy'n falch iawn o fod wedi cael fy mhenodi'n Weinidog y Gymraeg a chael y cyfle i arwain camau nesaf y strategaeth.
Mae'r strategaeth ei hun, a'n rhaglen waith pum mlynedd rwy'n ei chyhoeddi heddiw, yn allweddol i'n gwaith i gwrdd â'r nod llesiant o weld y Gymraeg yn ffynnu. Rŷm ni'n byw mewn cyfnod heriol ac rwy'n ymwybodol bod angen inni drosi ewyllys da tuag at y Gymraeg yn weithredau cadarn a chyflym. Mae'r ymrwymiad i wneud hyn yn rhedeg drwy'r rhaglen. Mae'n gweledigaeth ni yn un eangfrydig a chynhwysol. Rŷm ni eisiau creu dinasyddion dwyieithog sy'n hyderus i ddefnyddio'r Gymraeg sydd gyda nhw bob dydd. Yn syml, rŷm ni am i bawb yng Nghymru deimlo bod yr iaith yn perthyn i bob un ohonom ni.
Wrth reswm, mae'n hymateb ni i'r pandemig a'i effaith ar y defnydd o’r Gymraeg yn ganolog i'r rhaglen waith, ac mae prif elfennau strategaeth Cymraeg 2050 yn glir ac yn parhau. Gyda strategaeth sy'n ymestyn dros gyfnod hir, roeddem ni'n gwybod y gallai newidiadau mewn cymdeithas olygu bod yn rhaid addasu ein blaenoriaethau dros amser. Wrth gwrs, bu’n rhaid inni wneud hynny yn gynt na'r disgwyl, ac mae'r rhaglen waith yn adlewyrchu hyn.
Heddiw, rydym ni hefyd yn cyhoeddi ein hymateb i adroddiad diweddar am effaith COVID-19 ar grwpiau cymunedol Cymraeg. Rydym ni'n cynyddu'n ffocws ni ar ddatblygu cymunedol ac yn sicrhau bod ein gwaith ni yn helpu pobl i helpu'u hunain a'u cymunedau i ddefnyddio'r Gymraeg.
Mae cynllunio'n dda ac yn strategol yn ganolog i'r weledigaeth. Dyma beth fyddwn ni'n ei wneud: cynllunio'n ofalus er mwyn gallu cynyddu nifer y plant ac oedolion sy'n dysgu Cymraeg; cynyddu'r cyfleoedd sydd ar gael i ni i ddefnyddio'r Gymraeg gyda'n gilydd, a hynny mewn cymunedau daearyddol neu rithiol, gweithleoedd a mannau cymdeithasol.
Mae'r 58 maes gweithredu yn y rhaglen yn dangos pa mor eang mae'r gwaith a chynifer o gyfleoedd sydd gyda ni i wneud gwahaniaeth. Rwy'n ddiolchgar i'n partneriaid am yr ymroddiad maen nhw wedi'i ddangos. Mae hi wedi bod yn gyfnod anodd yn ystod y pandemig, ond rwy'n edrych ymlaen at ailadeiladu a chydweithio ymhellach.
Bydd canlyniadau cyfrifiad 2021 ac arolwg defnydd iaith 2019-20 yn cael eu cyhoeddi yn ystod y Senedd yma. Mae'n bwysig nodi, felly, fod hon yn rhaglen waith hyblyg, a byddaf i'n ddigon parod i'w hadolygu a'i datblygu yn sgil y cyfrifiad, ynghyd â'r dystiolaeth rŷm ni'n ei chasglu'n barhaus.
Mae'r rhaglen waith yn adeiladu ar ymrwymiadau ein rhaglen lywodraethu ni, ac wedi gwau ethos o Gymru gryfach, wyrddach a thecach i'r ymrwymiadau cyffredinol: cryfach fel gwlad ddwyieithog hyderus gyda hunaniaeth unigryw; gwyrddach, wrth dyfu'r economi werdd a chreu swyddi da, agos at adref, mewn ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn brif iaith; tecach, drwy'r gwaith rŷm ni'n ei wneud wrth gynllunio, deddfu a buddsoddi i ehangu addysg cyfrwng Cymraeg, fel bod gan bob plentyn, o ba gefndir bynnag, fynediad i'r Gymraeg ym mhob rhan o Gymru.
Felly, mae'n bleser mawr imi gyflwyno'r rhaglen waith uchelgeisiol yma ar gyfer cyfnod y Senedd newydd. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'm cyd-Weinidogion ac ar draws llywodraeth yng Nghymru i roi hyn oll ar waith. Mae'r degawd nesaf yn mynd i fod yn dyngedfennol o ran polisi iaith, ac mae'n rhaid inni i gyd dynnu gyda'n gilydd—gwleidyddion, awdurdodau lleol, y gymdeithas gyfan. Mae'r Gymraeg yn perthyn i bawb; felly hefyd y cyfrifoldeb i weithredu polisïau o'i phlaid hi.