Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 13 Gorffennaf 2021.
Nid oeddwn i'n gallu clywed eich llais, Dirprwy Lywydd. Mae etholwr wedi cysylltu â mi sydd â mab yn dod i ddiwedd blwyddyn wyth, ac mae'n pryderu bod cyfyngiadau symud olynol wedi golygu bod ei fab ar ei hôl hi'n sylweddol o ran ei Gymraeg llafar ac ysgrifenedig mewn ysgol cyfrwng Cymraeg. Mae wedi cysylltu â'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i holi am hyfforddiant ychwanegol i'w fab dros wyliau haf yr ysgol, dim ond i gael gwybod na fydd yn bosibl gan fod cylch gwaith y Ganolfan, a bennwyd gan Lywodraeth Cymru, yn ei gwneud yn ofynnol iddi addysgu oedolion, 18 oed neu hŷn yn unig.