Part of the debate – Senedd Cymru am 4:12 pm ar 13 Gorffennaf 2021.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi'n ddiolchgar i chi am ddod â datganiad yn fuan yn nhymor y Llywodraeth newydd ar y targed o greu miliwn o siaradwyr. Rydych chi'n gwybod bod gennych chi fy nghefnogaeth i yn yr uchelgais yma, a dwi'n gwybod eich bod chi'n hollol ddiffuant, ond dwi angen fy argyhoeddi bod y newid gêr angenrheidiol yn digwydd. Mi ddywedodd eich rhagflaenydd wrthyf i yn y Senedd ddiwethaf y bydd yn rhaid i'r Llywodraeth newydd—a dwi'n dyfynnu'r union eiriau; dyma a ddywedodd hi—fynd lot ymhellach nag yr ydym ni wedi mynd hyd yn hyn. Fedrwch chi felly roi enghreifftiau ymarferol a phenodol ynghylch i ba raddau mae'r cynllun gweithredu yma'n cynrychioli'r newid gêr yr oedd eich plaid chi'n cydnabod oedd ei angen er mwyn cyrraedd y miliwn?
O ran cynnwys y rhaglen ei hun yn gyffredinol, dwi yn bryderus bod peth o'r ieithwedd yn awgrymu parhad yn hytrach na newid a bod o'n rhy benagored—'diweddaru' targedau athrawon; 'ystyried' effaith safonau; 'datblygu' canllawiau; 'parhau' i ychwanegu at ein sail tystiolaeth am y Gymraeg a chynlluniau ieithyddol; 'gweithio' i amddiffyn enwau lleoedd Cymraeg.
Gan droi at y manylder, dwi yn croesawu'r ymrwymiad gan eich Llywodraeth chi i gyflwyno Bil addysg cyfrwng Cymraeg. Mae Plaid Cymru wedi dadlau ers tro bod angen mecanwaith statudol i yrru'r ymdrechion i dyfu'n sylweddol addysg cyfrwng Cymraeg, gan gydnabod rôl allweddol y sector addysg wrth wireddu'r filiwn. Hoffwn i achub ar y cyfle yn y cyswllt yma i dalu teyrnged i Gareth Pierce, cyn brif weithredwr Cyd Bwyllgor Addysg Cymru, fu farw yn ddisymwth iawn yn ddiweddar yma, un a wnaeth gymaint dros addysg Gymraeg, ac, yn wir, Gareth oedd awdur y papur trafod yma y gwnes i gyhoeddi nôl yn yr haf 2019, oedd yn symud y drafodaeth ymlaen i edrych ar gnewyllyn Deddf addysg Gymraeg, ac mi fyddai pasio Deddf uchelgeisiol o'r fath yna yn y Senedd yma yn deyrnged arbennig i Gareth Pierce a'i waith dros nifer o flynyddoedd. Felly, a fedrwch chi roi syniad i ni o'r amserlen ar gyfer cyhoeddi'r Bil a'r amserlen ar gyfer tywys Bil o'r fath drwy'r Senedd?
Rydych chi'n nodi y byddwch chi yn ystyried effaith safonau'r Gymraeg ar ddefnydd iaith wrth wneud penderfyniadau ynghylch paratoi rheoliadau pellach. Mae'r dystiolaeth yn dangos bod y safonau wedi cael effaith gadarnhaol ar unigolion a chyrff yn y meysydd y maen nhw wedi'u cyflwyno. Mae'n bryd rŵan gweld amserlen yn cael ei chyhoeddi ar gyfer ymestyn y safonau i feysydd eraill, felly dwi'n siomedig efo'r agwedd yma.
A fedrwch chi gadarnhau'r amserlen a'r cylch gorchwyl ar gyfer ystyried effaith y safonau? A beth ydy effaith yr oedi yma ar y rheoliadau sydd eisoes wedi cael eu hymgynghori arnyn nhw, sef y rheoleiddwyr iechyd a'r cwmnïau dŵr? Mae angen cydnabod cyfraniad pwysig y safonau at y strategaeth a chael eglurder am symud ymlaen efo gweithredu mewn meysydd newydd.
Yn olaf, rydych chi'n cyfeirio at sefydlu comisiwn i gryfhau sefyllfa'r Gymraeg fel iaith gymunedol. A fedrwch chi ddweud mwy am y comisiwn sydd dan sylw? Ai ryw fath o grŵp gorchwyl a gorffen fyddai o, achos dwi'n sicr nad ydyn ni ddim eisiau siop siarad arall? Neu, os nad yw'n gorff neu'n grŵp gorchwyl a gorffen, ai ryw fath o gorff datblygu pwrpasol sydd gennych chi o dan sylw, efo pwerau i adfywio cymunedau Cymraeg a denu swyddi i'r gorllewin ac yn y blaen?
Fel cam tuag at sefydlu corff pwrpasol o'r math hwnnw, sef yr hyn y mae Plaid Cymru'n meddwl sydd ei angen, a wnewch chi roi diweddariad i ni ar gynllun Arfor, ac yn benodol ar arian ar gyfer parhau efo'r cynllun pwysig yma, os gwelwch yn dda? Diolch yn fawr.