Part of the debate – Senedd Cymru am 4:27 pm ar 13 Gorffennaf 2021.
Wel, wrth gwrs, rwy'n ateb yn sgil fy rôl fel Gweinidog addysg yn hytrach nag Aelod lleol yng Nghastell-nedd. Gallaf ddweud bod achos busnes llawn Castell-nedd Port Talbot dros gynnig yr ysgol yng nghwm Tawe wedi'i ohirio ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru, a bydd swyddogion yn cyfarfod â'r awdurdod yr wythnos nesaf i drafod eu hasesiad o'r effaith ar y Gymraeg yn fanylach cyn bwrw ymlaen ymhellach. Mae'n bwysig pan fydd awdurdodau lleol yn ystyried cynigion cynllunio ysgolion, ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg neu Saesneg ai peidio, eu bod nhw'n parhau i edrych ar y darlun ehangach. Mae cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi nodi ardal Pontardawe fel ardal ieithyddol sensitif, felly mae'n rhaid i'r awdurdod gymryd pob cam posib i liniaru unrhyw effaith andwyol y gallai cynigion newydd eu cael ar yr iaith.
O ran impact ar sefydliadau a chanolfannau cymunedol, mae'r adroddiad rwy'n ei gyhoeddi heddiw, mae ffocws hwnna ar impact COVID yn benodol ar grwpiau cymunedol ac isadeiledd cymunedol Cymraeg. Felly, byddwn i'n cyfeirio sylw'r Aelod at gynnwys y ddogfen honno.