Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 13 Gorffennaf 2021.
Diolch yn fawr. Gadewch i mi ddechrau trwy ddweud bod coed yn bethau da. Mae'n rhaid i ni ddiogelu'r coed sydd gennym ni, a phlannu 86 miliwn yn fwy ohonyn nhw yng Nghymru erbyn diwedd y degawd hwn, os ydym am fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Mae angen newid sylweddol arnom o ran creu coetiroedd, a thrawsnewid yn y ffordd y defnyddir coed Cymru ar draws ein heconomi.
Dros y mis diwethaf, rwyf wedi arwain ymarfer i fynd i wraidd mater i nodi ar frys y rhwystrau sy'n atal cynnydd a'r camau gweithredu i'w goresgyn. Rwyf wedi cael fy nghefnogi gan dasglu bach sy'n cynnwys arbenigwyr yn y meysydd hyn, a hoffwn i ddiolch i bob un ohonyn nhw am yr amser y maen nhw wedi ei roi, a'u hawydd i ysgogi newid. Rwyf i hefyd wedi siarad â chynrychiolwyr llawer o grwpiau sydd â diddordeb, gan gynnwys ffermwyr, coedwigwyr, sefydliadau anllywodraethol, proseswyr ac adeiladwyr tai.
Rydym yn derbyn y targedau plannu coed a bennwyd gan Bwyllgor Newid Hinsawdd y DU. Er mwyn cyrraedd sero net, mae angen i ni blannu 43,000 hectar o goed newydd erbyn 2030, gan godi i 180,000 hectar erbyn 2050. I fod yn glir, Dirprwy Lywydd, bydd hyn yn gofyn am blannu 15 gwaith yn fwy o goed nag yr ydym wedi eu plannu yng Nghymru eleni. Dim ond trwy gynghrair ar gyfer newid y bydd hyn yn bosibl, gan gynnwys llawer o bartneriaid yn gweithio gyda'i gilydd. Felly, heddiw, hoffwn i alw ar bobl i ymuno â ni i gyflawni'r newid hanfodol hwn, ac mae'n dechrau gydag unigolion a chymunedau ledled Cymru. Am bob baban newydd-anedig yng Nghymru, rydym yn plannu coeden newydd yng Nghymru ac yn Uganda. Rydym ni wedi dysgu gwersi gwerthfawr o'n partneriaeth â phobl Mbale ac mae angen i ni eu gweithredu yn fwy eang yma erbyn hyn.
Gadewch i ni ddechrau gyda'r neges yr ydym ni'n ei chyflwyno gyda'r elusen Maint Cymru yn Affrica: mae coed yn anhygoel. Maen nhw'n achub bywydau drwy gadw ein haer yn lân. Mae coed yn gwella iechyd pobl; mae tystiolaeth glir o fanteision lluosog i'n llesiant, o ganlyniad i straen a phwysedd gwaed is pan fyddwn yn ymyl coed. Byddai'n dda gen i pe bawn i'n agos atyn nhw yn amlach. Lefelau uwch o weithgarwch corfforol, gwell iechyd meddwl, cynnydd mewn natur gymdogol, lefelau troseddu is hefyd; mae coed yn hanfodol ar gyfer mynd i'r afael â'n hargyfwng natur, ar gyfer helpu i wella bioamrywiaeth, ac, wrth gwrs, ar gyfer mynd i'r afael â newid hinsawdd, trwy amsugno carbon, lliniaru llifogydd a disodli cynhyrchion carbon-ddwys fel concrit wrth adeiladu tai. A gallan nhw ein helpu i greu mwy o swyddi hefyd. Mae gwaith wedi dechrau ar weithredu ymrwymiad ein maniffesto i ddatblygu strategaeth ddiwydiannol coed a chreu economi goed gryfach i Gymru.
Rydym ni eisiau i bob teulu sydd â gardd blannu mwy o goed, a phob ysgol a grŵp cymunedol i ymuno â chynllun coed am ddim Coed Cadw. Mae angen i ni ei gwneud yn haws i gymunedau blannu coed, ac yn haws iddyn nhw ryngweithio ag awdurdodau. O ganlyniad i'r ymarfer i fynd at wraidd y mater, rydym ni wedi cytuno bod angen i gyrff cyhoeddus fapio'r tir y maen nhw'n berchen arno a nodi'n rhagweithiol ble y gellir plannu mwy o goed.
Mae'n hanfodol ein bod ni'n gweithio gyda'r ffermwyr a thirfeddianwyr eraill yng Nghymru, ac yn dysgu oddi wrthyn nhw, a bydd angen iddyn nhw blannu llawer o'r coed hyn. Roedd yn amlwg o'n hymarfer nad dim ond mwy o gyngor sydd ei angen arnom; mwy o ymgysylltu sydd ei angen arnom—ymgysylltu gwirioneddol; miloedd o sgyrsiau â phob ffermwr i weld beth sy'n addas i'w fferm, i'w cael nhw yn rhan o'r ateb y mae angen i ni ei weld. A dangos iddyn nhw y gall plannu coed ddigwydd ochr yn ochr â gweithgareddau ffermio eraill, o safbwynt ariannol a chymdeithasol. Mae'r drefn grantiau bresennol yn gweithredu yn erbyn hynny, ac mae angen i hynny newid. Yn ogystal â phlannu coetiroedd newydd, mae angen i ni hefyd blannu'r hyn a ddisgrifir fel 'gwrychoedd ac ymylon', fel coed ar hyd ffiniau caeau, coed gwasgaredig, gwrychoedd a lleiniau cysgodi—rwyf i wedi dysgu rhai geiriau newydd, Dirprwy Lywydd, yn rhan o'r ymarfer hwn. Y mae wedi bod yn brofiad diddorol iawn.
Mae rhai enghreifftiau gwych i ddysgu ohonyn nhw, gan gynnwys y prosiect Cefnogi'r Coed ger y Fenni, yr ymwelais ag ef ddoe, prosiect dan arweiniad ffermwyr mewn consensws â chymunedau i blannu coed ar dir anghynhyrchiol a chreu ffynonellau incwm newydd gan ddiogelu eu cymunedau ar gyfer y tymor hwy. Mae angen mwy o enghreifftiau fel y rhain arnom, felly rwy'n sefydlu gweithgor newydd i ystyried modelau ar frys i ddenu buddsoddiad i faes creu coetiroedd, ac yn hollbwysig, heb amharu ar gymunedau presennol a phatrymau tirfeddiannaeth. Rwy'n poeni, Dirprwy Lywydd, am y duedd i rannau helaeth o dir fferm gael eu prynu gan fuddiannau allanol, trwy ymarfer gwyrddgalchu. Nid oes angen i hyn ddigwydd, fel yr ydym wedi ei weld gyda Cefnogi'r Coed, ac rwyf i'n awyddus i gymryd camau i sicrhau nad yw hynny'n mynd yn rhemp.
Mae llawer o'r coed sydd wedi eu plannu yng Nghymru ar hyn o bryd yn cael eu hariannu drwy ein cynllun creu coetir Glastir. Yn y gorffennol, mae cyllid trwy'r cynllun hwn wedi bod yn rhy anghyson a'r broses ar gyfer cael cyllid yn rhy gymhleth ac araf. Rwyf i wedi meddwl ar adegau, tybed sut yn y byd y gwnaethom ni lwyddo i blannu cynifer o goed ag sydd gennym ni, a bod yn onest. Mae'r tasglu wedi nodi nifer o gamau gweithredu i newid hyn. Byddwn yn agor ffenestr newydd yn y cynllun presennol i sicrhau bod y cyfan o'r £17 miliwn yr ydym wedi ei ddyrannu i blannu coed yn cael ei wario eleni, ac rwyf i wedi gofyn i CNC gyflwyno newidiadau ar unwaith i gyflymu'r broses gyflenwi, i arwain y gwaith o ailwampio'r canllawiau yr ydym yn eu darparu ar blannu coed, a chanolbwyntio yn hytrach ar allgymorth i helpu pobl i gyflawni pethau a sicrhau bod pethau'n iawn ar ddechrau prosiect.
O'r flwyddyn nesaf ymlaen, byddwn yn cyflwyno cynllun gwell i gefnogi'r gwaith o greu coetiroedd, gyda chyllid annibynnol i alluogi pobl i gynllunio coetir newydd fel ein bod yn creu llif o brosiectau sy'n barod i'w plannu pan fydd yr arian ar gael. Rwyf i'n awyddus i lawer o'r ardaloedd a gefnogir gan y cynlluniau hyn fod yn rhan o'r goedwig genedlaethol, i greu rhwydwaith o ardaloedd coetir o ansawdd uchel ledled Cymru. Mae angen i ni wneud mwy hefyd i gefnogi pobl i greu coetiroedd newydd neu wneud gwelliannau i goetiroedd presennol i fodloni safonau'r goedwig genedlaethol. Yn ddiweddarach yr wythnos hon, byddwn yn agor y grant buddsoddi mewn coetiroedd i ganiatáu i bobl wneud cais am y cymorth hwn.
Mae wythdeg y cant o'r pren sy'n cael ei ddefnyddio yn y DU yn cael ei fewnforio, a dim ond 4 y cant o'r 1.5 miliwn tunnell o bren wedi ei gynaeafu sy'n cael ei brosesu i'w ddefnyddio fel pren gradd adeiladu yng Nghymru. Felly mae cyfle gwirioneddol i broseswyr a gweithgynhyrchwyr coed yng Nghymru gyfrannu at yr economi goed hon, gan greu swyddi newydd yn y Gymru wledig yn ogystal â datblygu cadwyn gyflenwi arloesol ar gyfer defnydd bywyd hirach sydd â gwerth ychwanegol uchel. Dylem ni fod yn rhoi llai o sylw i gynhyrchu paletau, a rhoi mwy o'n sylw i ddefnyddio'r pren hwnnw i adeiladu cartrefi Cymru sy'n dal ac yn cadw carbon. Bydd hynny'n gofyn am gydgysylltu ar draws y gadwyn gyflenwi. Felly, mae gen i weithgor newydd arall i ystyried cynnwys strategaeth ddiwydiannol pren newydd i Gymru ar frys. Mae angen i ni greu gwerth ychwanegol trwy'r gadwyn gyfan, ac mae llawer y gallwn ei ddysgu oddi wrth Weriniaeth Iwerddon yn hyn o beth.
Rydym ni wedi cyhoeddi y prynhawn yma, Dirprwy Lywydd, restr o'r 39 o gamau y mae'r tasglu wedi cytuno arnyn nhw, ochr yn ochr â'r datganiad ysgrifenedig. Nawr, mae angen i ni barhau â'r momentwm. Byddaf yn cloi, os caf i, gyda sylw a wnaed yn ystod un o'n cyfarfodydd gan Mark McKenna o'r prosiect 'Down to Earth'. Dywedodd, wrth fyfyrio ar un o'n sgyrsiau, 'Mae'r atebion yna. Mae angen i ni fuddsoddi ac mae angen i ni gynllunio'. Ac rydym yn bwriadu gwneud hynny. Diolch.