Part of the debate – Senedd Cymru am 4:59 pm ar 13 Gorffennaf 2021.
Diolch am yr ymyriad adeiladol yna, ac rwyf i wedi galw Darren Millar yn llawer o bethau dros y blynyddoedd, ond byth yn un brwdfrydig dros goed. Felly, dyna un i'w ychwanegu at y rhestr. Rwy'n credu ei fod yn llygad ei le wrth ddweud bod tensiynau polisi a chanlyniadau hurt ac anfwriadol weithiau, ac mae'n rhoi enghraifft dda iawn yna. Felly, byddwn i'n hapus iawn i edrych ar hynny, gan fy mod i'n credu ei bod yn broblem.