Part of the debate – Senedd Cymru am 5:28 pm ar 13 Gorffennaf 2021.
Diolch, Llywydd. Cynigiaf y cynnig yn ffurfiol.
Bydd Rheoliadau Drafft Deddf y Coronafeirws 2020 (Dod i Ben yn Gynnar: Gofal a Chymorth gan Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2021 sydd ger eich bron chi heddiw yn darparu ar gyfer dod â gweithrediad y darpariaethau gofal cymdeithasol a gynhwysir yn y Ddeddf 2020 honno i ben yn gynnar. Mae'r rheoliadau drafft hyn yn ymwneud yn benodol â Rhan 2 o Atodlen 12 i Ddeddf 2020, ac adran 15 o Ddeddf 2020, i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhan 2 o Atodlen 12.
Mae darpariaethau gofal cymdeithasol Deddf 2020 yn addasu dyletswyddau penodol awdurdodau lleol mewn cysylltiad â gofal cymdeithasol i oedolion, o dan Rannau 3 a 4 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Bydd yr Aelodau yn cofio i mi ysgrifennu atyn nhw ar 19 Chwefror, yn rhoi rhybudd o fy mwriad i atal gweithredu'r darpariaethau a'r rheoliadau hynny, ac i roi'r atal hynny ar waith, daeth hyn i rym ar 22 Mawrth eleni.
Mae llywodraeth leol wedi bod yn gwbl glir nad oes yr un awdurdod lleol yng Nghymru wedi gweithredu darpariaethau Deddf 2020. Mae'n adlewyrchiad o ymrwymiadau ac ymroddiad yr arweinwyr a'r gweithlu i archwilio ffyrdd o gynnal gofal a chymorth o dan amgylchiadau anodd iawn. Mae'n dystiolaeth bellach o'r ymateb anhygoel a wnaed gan bawb yn y sector gofal cymdeithasol a ledled Cymru.
Nid yw hynny'n golygu nad yw pobl wedi cael profiad na gwneud dewis gweithredol i wneud addasiadau i'w gofal a'u cymorth oherwydd yr effaith y mae'r pandemig wedi ei chael ar staffio ac adnoddau hanfodol eraill, yn enwedig yn ein cymunedau lleol. Mae effaith COVID ar bobl hŷn, plant sy'n derbyn gofal, oedolion ag anableddau dysgu a gofalwyr di-dâl wedi bod yn glir. Dyna pam y gwnaethom ni sicrhau bod Deddf 2020 yn cynnal amddiffyniadau allweddol, heb eu haddasu drwy gydol y pandemig.
Er enghraifft, fe wnaethom ni sicrhau bod y dyletswyddau sy'n ddyledus i bobl o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn aros yn ddigyfnewid, yn ogystal â dyletswyddau i ystyried y confensiynau a'r egwyddorion perthnasol sy'n ymwneud â hawliau dynol, pobl hŷn a phobl anabl. Yn yr un modd, fe wnaethom ni sicrhau bod trafodaethau a phenderfyniadau yn ymwneud â gofal a chymorth yn cael eu cefnogi a'u llywio gan y fframwaith moesegol penodol ar gyfer gofal cymdeithasol, ac fe wnaethom ni weithio gyda'r Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl i gyhoeddi canllawiau statudol clir a chynhwysfawr.
Mae Deddf y Coronafeirws 2020 wedi ei hamserlennu i ddod i ben yn awtomatig ar 25 Mawrth 2022 oni bai bod y darpariaethau yn cael eu hymestyn neu, fel yn yr achos sydd ger eich bron heddiw, yn cael ei dwyn i ben yn gynnar. Rwy'n eich gwahodd i gefnogi'r cynnig i ddod â'r darpariaethau hyn i ben yn gynnar a chymeradwyo Rheoliadau drafft Deddf y Coronafeirws 2020 (Dod i Ben yn Gynnar: Gofal a Chymorth gan Awdurdodau Lleol) (Cymru). Diolch.