Tai Cymdeithasol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 14 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mabon ap Gwynfor Mabon ap Gwynfor Plaid Cymru 1:31, 14 Medi 2021

Diolch am yr ateb, Brif Weinidog. Wel, mi ges i gyfarfod yn ddiweddar efo swyddogion Llywodraeth De'r Tyrol yng ngogledd yr Eidal, un o'r rhanbarthau cyfoethocaf yn Ewrop, ac yno does nemor ddim ail dai ac mae twristiaeth yn llewyrchu. Ond er gwaethaf llewyrch yr ardal, mae 60 y cant o'r tai yno yn dai cymdeithasol ac yn ymateb i'r galw cymunedol. Onid dyma'r math o uchelgais y dylen ni fod yn ei ddangos yma yng Nghymru, a pha gamau felly ydych chi am eu cymryd er mwyn newid y diwylliant yng Nghymru a sicrhau bod datblygiadau tai a gwerthiant yn ymateb i'r galw cymunedol ac nid yn fuddsoddiad economaidd i bobl sydd eisoes yn ariannog? Diolch.