1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 14 Medi 2021.
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i liniaru tlodi bwyd yn Islwyn? OQ56842
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Ar 6 Medi, fe wnaethom ni gyhoeddi gwerth dros £1.9 miliwn o gyllid newydd i helpu i fynd i'r afael â thlodi bwyd ac ansicrwydd bwyd. Mae prosiect bwyd Gofalu am Gaerffili yn un o'r rhai i elwa ar y cyllid hwnnw. Bydd yn dod â chymunedau ynghyd—cynhyrchwyr bwyd a mentrau tyfu—i ffurfio rhwydwaith o sefydliadau sydd â'r nod o fynd i'r afael ag ansicrwydd bwyd yn ardal Islwyn.
Diolch, Prif Weinidog. Cyhoeddwyd yr wythnos diwethaf bod dros £1.9 miliwn o gyllid yn cael ei ddyfarnu i sefydliadau ledled Cymru, fel yr ydych chi'n ei ddweud, i helpu i fynd i'r afael â thlodi bwyd ac i roi sylw i ansicrwydd bwyd mewn cymunedau lleol. Yn Islwyn, ym Mhantside, lle cefais i fy ngeni, fe wnaeth gwirfoddolwyr lleol sefydlu banc bwyd Panstide ym mis Chwefror 2020, ac mae gwirfoddolwyr, fel Jayne Jeremiah, Wendy Hussey, Adrian Hussey, Cath Davies, Peter a Chyeran Cho, Simone Hockey, Jackie Ann Simette a Viv Smithey, wedi cael eu cynorthwyo gan y gymuned leol, y siopau Co-op, Asda a siopau bara David Wood. Yn ystod y pandemig hwn, mae'r unigolion rhyfeddol hyn—ac rwy'n dweud hynny yn gwbl ddiffuant—a'r cwmnïau hyn wedi camu ymlaen i gydgysylltu rhoddion y gymuned i helpu'r rhai mewn tlodi bwyd. Prif Weinidog, pa gamau pellach all Llywodraeth Cymru eu cymryd felly i gynorthwyo ymgyrchwyr lleol, fel gwirfoddolwyr banc bwyd Pantside, y mae eu hangen yn fwy nag erioed wrth i Lywodraeth Dorïaidd y DU geisio torri £20 yr wythnos i hawlwyr credyd cynhwysol ym mis Hydref?
Wel, Llywydd, mae Rhianon Passmore yn gwneud pwynt pwysig iawn ar ddiwedd oll ei chwestiwn atodol. Mae'r gwirfoddolwyr gwych hynny yn Eglwys San Pedr ym manc bwyd Pantside—banc bwyd rhyfeddol, gyda llaw, Llywydd, gan ei fod yn gweithredu heb unrhyw atgyfeiriadau, heb unrhyw dalebau, heb unrhyw apwyntiadau; gall pobl alw draw a gwybod y byddan nhw'n cael cymorth—ac mae'n ffaith drist iawn yn wir, o ddileu yr £20 yr wythnos hwnnw, y bydd y gwirfoddolwyr hynny, ac eraill tebyg iddyn nhw ledled Cymru gyfan, yn cael eu hunain yn gorfod ymateb i anghenion hyd yn oed mwy o deuluoedd, teuluoedd sy'n gweithio, yma yng Nghymru, Llywydd. Mae yna 97,000 o deuluoedd yng Nghymru sy'n gweithio ac yn derbyn credyd cynhwysol. Mae bron i 300,000 o deuluoedd a fydd yn waeth eu byd bob un wythnos, yn cael eu gorfodi, fel y dywedodd Ymddiriedolaeth Trussell yr wythnos diwethaf, i ddewis eto rhwng gwresogi, bwyta neu allu fforddio teithio i'r gwaith. Mae'n fwriadol, mae'n bwrpasol ac mae'n ddideimlad. Mae'n benderfyniad y dylai Llywodraeth y DU, hyd yn oed nawr, ei ailystyried fel y gall y teuluoedd hynny a'r gwirfoddolwyr hynny ledled Cymru gyfan ganolbwyntio eu hymdrechion ar y cymorth sydd ei angen eisoes yn ein cymunedau, heb ychwanegu miloedd yn fwy o bobl a fydd yn ei chael hi'n anodd bob wythnos i gael dau ben llinyn ynghyd.