COVID-19 mewn Ysgolion

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 14 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:02, 14 Medi 2021

Diolch yn fawr i Siân Gwenllian am y cwestiwn, Llywydd. Cafodd y cyngor diweddaraf ar fesurau diogelwch COVID-19 mewn ysgolion ei gyhoeddi ddydd Gwener 27 Awst. Mae'n nodi camau penodol gan adlewyrchu risg ac amgylchiadau lleol. Mae disgwyl i bob ysgol fabwysiadu'r dull sydd wedi ei nodi yn y cyngor erbyn 20 Medi.