Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 14 Medi 2021.
Diolchaf i Hefin David, Llywydd, am hynny. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i geisio eglurder ar gyfres o faterion sydd y tu ôl i benawdau cyhoeddiad yr wythnos diwethaf. Mae hynny yn cynnwys faint o gyllid sydd ar gael i Gymru ac, yn bwysig iawn, y driniaeth o achosion trawsffiniol. Bydd ein grŵp gweinidogol talu am ofal, fel y clywsoch, yn ailymgynnull i gyflwyno cynigion ar gyfer Cymru.