Part of the debate – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 14 Medi 2021.
Diolch, ac rwy'n credu bod yr Aelod yn codi pwynt pwysig iawn. Mae'n gwbl hanfodol ein bod ni'n gwerthfawrogi ein gofalwyr ac, fel yr ydych chi'n ei ddweud, mae COVID-19 wedi rhoi pwysau arall ar bobl sy'n gofalu am aelodau eu teulu neu eu cylch ffrindiau sy'n agored i niwed. Nid wyf i'n ymwybodol o'r ymgynghoriad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, ond byddwn i'n annog pob etholwr yn eich rhanbarth chi i gyfrannu at yr ymgynghoriad hwnnw. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod y cyngor yn clywed beth yw anghenion a gofynion pobl.