2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 14 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 2:49, 14 Medi 2021

Diolch, Trefnydd. Byddwch yn ymwybodol, dwi'n siŵr, fod cryn sylw wedi bod yn y wasg a gwrthwynebu chwyrn a phryderon lleol ynglŷn â'r ymgynghori a fu dros yr haf ynghylch codi tâl ar yrwyr i ddefnyddio'r A470 rhwng Glan-bad a Phontypridd a hefyd ar rannau o draffordd yr M4. Gwn fod y Dirprwy Weinidog dros Newid Hinsawdd wedi datgan ar Twitter nad oes unrhyw gynlluniau na thrafodaethau ynglŷn â chodi tâl ar yrwyr. Ond, oes modd cael datganiad o ran hyn, os gwelwch yn dda, yn arbennig, felly, o ran beth yw cynlluniau'r Llywodraeth i leihau'r lefel uchel o lygredd ar y rhan yma o'r A470, a hwythau'n parhau yn rhy uchel er gwaethaf y mesurau cyfyngu cyflymder sydd wedi eisoes eu rhoi mewn grym?