Part of the debate – Senedd Cymru am 3:07 pm ar 14 Medi 2021.
Dwi'n croesawu'r cyfle i ymateb i’r datganiad hwn ynglŷn â’r cynllun adsefydlu yn sgil y sefyllfa ddirdynnol yn Affganistan, a thrafod sut mae a sut gall Cymru roddi cymorth a noddfa i’r rhai sydd eu hangen. A hoffwn ddechrau hefyd drwy ddiolch i’r Gweinidog am drefnu briff inni fel Aelodau o’r Senedd wythnos diwethaf fel bod peth cyfle i gael ein diweddaru hefyd.
Fe wrthwynebodd Plaid Cymru i’r rhyfel yn Affganistan o’r cychwyn cyntaf, gan gwestiynu amcanion milwrol yr ymgyrch a’r tactegau a ddefnyddiwyd, gan rybuddio y gallai peidio â chael strategaeth a nodau pendant arwain at ymyriad tymor hir aneffeithiol. Ac, yn anffodus, dyna’r sefyllfa rydym ynddi heddiw, yng nghanol argyfwng sy’n datblygu ac sydd yn parhau i waethygu oherwydd methiannau Llywodraethau Llafur a’r Ceidwadwyr yn San Steffan. Ond er nad oedd hwn yn rhyfel roeddem yn ei gefnogi, hoffwn ddatgan yn glir heddiw ein cefnogaeth lwyr o ran rhoddi noddfa i’r rhai sy’n ffoi o Affganistan. Fel cenedl noddfa, mae’n allweddol bwysig ein bod yn gwneud popeth i’w croesawu a’u cefnogi.
Fe wnaethoch nodi yn eich datganiad eich bod ddoe wedi derbyn mwy o fanylion am y cynlluniau adleoli ac adsefydlu, a bod rhai o’ch ceisiadau o ran meini prawf wedi’u derbyn. Allwch chi gadarnhau neu rannu, os gwelwch yn dda, pa rai sydd wedi’u derbyn a pha rai sydd wedi’u gwrthod? Hefyd, o ran y cynllun dinasyddion, oes yna unrhyw amcan o ran pryd y bydd hyn yn cychwyn, ac os nad oes dyddiadau, sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu helpu dinasyddion yn Affganistan sydd angen cymorth ond methu ei dderbyn fel rhan o’r cynlluniau presennol?
Fe wnaethoch hefyd gyfeirio yn eich datganiad, a hefyd mewn ymateb i Mark Isherwood, ynglŷn â chyllid a bod eich cais o ran hynny wedi’i dderbyn. Ydy hynny’n llwyr, neu oes yna rai pryderon gennych chi yn parhau? A byddwn i’n hoffi gwybod yn glir, felly, beth ydy’r sefyllfa ddiweddaraf ynghylch darparu cyllid digonol i awdurdodau lleol. Ydych chi hefyd wedi derbyn cadarnhad y bydd cefnogaeth ariannol yn dod gan San Steffan os nad oes cyllid digonol ar gael yng nghyllideb Llywodraeth Cymru?
Mi ydym ni i gyd wedi cyfeirio at yr Urdd, a hoffwn innau ategu ein diolch bod yr Urdd wedi ymrwymo i gynnig lloches, a hefyd eu bod am drefnu amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon, celfyddydol ac addysgol er mwyn cefnogi'r teuluoedd wrth iddynt setlo. Mi welsom ni werth hynny, o ran sut mae cymunedau yn medru setlo yma yng Nghymru, dros yr haf, efo cyfweliadau yn y Gymraeg gyda ffoaduriaid o Syria—rhywbeth oedd yn emosiynol ac yn gwneud imi deimlo'n falch iawn o fod yn Gymraes. A dwi'n gobeithio y gwelwn ni y math yna o olygfeydd gyda ffoaduriaid o Affganistan yn y dyfodol. A yw'r Gweinidog, felly, yn cytuno, fel rhan o roi pob cyfle i ffoaduriaid gwmpasu eu bywyd yng Nghymru yma yn llawn, y dylid hefyd gynnwys rhoi cyfle iddynt ddysgu Cymraeg os ydynt eisiau? Rydych chi hefyd wedi cyfeirio at yr holl sefydliadau trydydd sector a gwirfoddol ac ati sy'n barod iawn i roi cymorth; oes yna unrhyw gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru o ran hynny?
Wrth gwrs, mae'r sefyllfa yn Affganistan yn digwydd yng nghyd-destun toriadau Llywodraeth San Steffan i gyllideb cymorth datblygu tramor y Deyrnas Unedig, ac, yn anffodus, yn gynharach eleni, fe gyhoeddwyd hynny yng nghyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Bydd gollwng yr ymrwymiad hwn yn tanseilio nodau Llywodraeth y Deyrnas Unedig o fod yn rym er daioni yn y byd. Ydych chi, felly, Weinidog, yn poeni y bydd y toriadau yma yn golygu llai o gefnogaeth yn y dyfodol i'r rhai sydd mewn angen yn Affganistan, ac a yw Llywodraeth Cymru wedi gwneud unrhyw asesiad o sut bydd y toriad yma yn effeithio ar allu Llywodraeth Cymru i gefnogi pobl a gwledydd sydd mewn angen ar draws y byd, gan gynnwys Affganistan, yn y dyfodol?
Yn olaf, allwn ni ddim ond dychmygu'r hyn mae'r unigolion a'r teuluoedd hyn wedi'i wynebu, ac yn parhau i'w wynebu, ac mae'n bwysig heddiw ein bod ni fel Senedd yn gyrru neges glir bod croeso cynnes a Chymreig a thwymgalon i bawb sydd yn dod yma i Gymru. Yn anffodus, fel oedd wedi'i amlygu yn adroddiad diweddar Hope Not Hate, er ein bod yn genedl o noddfa, mae hiliaeth yn parhau yn broblem yma yng Nghymru, ac mae cyfrifoldeb arnom oll i yrru neges bendant nad yw hyn yn dderbyniol. Cymru yw eu cartref rŵan, ac mae cyfrifoldeb arnom i sicrhau eu bod yn derbyn y croeso a'r gefnogaeth sydd yn gwneud iddynt deimlo'n ddiogel yma.