5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:31 pm ar 14 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 4:31, 14 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddefnyddio pob ysgogiad sydd ar gael i ni i wella bywydau gwaith a gweithleoedd ledled y wlad. Rydym yn benderfynol o fod yn genedl o waith teg, gan gydweithio i sicrhau gwaith boddhaol ac urddasol sy'n cyflwyno manteision ehangach i'n cymunedau, ein heconomi a'n hamgylchedd. Mae'r Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus (Cymru) yn rhan bwysig o hyn.

Daeth yr ymgynghoriad ar ein Bil drafft i ben yn fuan cyn etholiadau'r Senedd ym mis Mai. Roedd yr ymateb yn gadarnhaol iawn, gydag 85 o ymatebion yn cymeradwyo ein cynigion yn fras a chyhoeddwyd dadansoddiad cryno o'r ymatebion ar 13 Gorffennaf. Roedd y Bil drafft yn cynnwys darpariaethau i gryfhau a hyrwyddo cysondeb mewn partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru. Bydd yn rhoi partneriaeth gymdeithasol ar sail fwy ffurfiol drwy greu cyngor partneriaeth gymdeithasol statudol ac yn gosod dyletswydd newydd ar gyrff cyhoeddus penodedig yng Nghymru i gynnwys yr undebau llafur cydnabyddedig wrth gyflawni swyddogaethau penodol.

Roedd y Bil drafft yn cynnwys mesurau i'n galluogi ni i sicrhau caffael cyhoeddus sy'n gyfrifol yn gymdeithasol. Fel y cadarnhaodd fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar ddiwygio caffael cyhoeddus a byddwn yn defnyddio eu deddfwriaeth ar gyfer y prosesau sylfaenol sy'n sail i gaffael. Ond rydym ni o'r farn y dylid gwneud y penderfyniadau ar ganlyniadau polisi caffael yng Nghymru. Byddwn yn sefydlu fframwaith statudol a fydd yn gosod ein blaenoriaethau o waith teg, datgarboneiddio a llesiant wrth wraidd ein proses gaffael. Bydd y ddeddfwriaeth yn gwella'r cysylltiad rhwng prosesau caffael a chyflawni canlyniadau gwell drwy ddarpariaethau rheoli contractau cryfach i wella tryloywder. Bydd hyn yn amlygu meysydd i'w gwella ac yn caniatáu rhannu arfer da. Ein nod yw sefydlu system lle gellir dwyn sefydliadau i gyfrif am sicrhau bod amodau contract yn cefnogi arferion sy'n gyfrifol yn gymdeithasol ar draws cadwyni cyflenwi, yn enwedig mewn contractau adeiladu mawr a chontractau gwasanaethau allanol.

Yn olaf, bydd y Bil yn cyflwyno dyletswydd benodol ar Weinidogion Cymru i gymryd camau i hyrwyddo ac annog gwaith teg pan fyddwn yn ymgymryd â gweithgarwch i wella'r modd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu neu lesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol neu ddiwylliannol Cymru. Yn ymarferol, bydd dyletswydd gwaith teg y Bil yn golygu y bydd Gweinidogion Cymru o dan rwymedigaeth gyfreithiol i gymryd camau sy'n hyrwyddo ac yn annog gwaith teg yn unol â'r diffiniad a geir yn adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg. Bydd y Bil yn cryfhau'r ffordd yr ydym yn mynd ati i ymdrin â gwaith teg ar draws y Llywodraeth, gan roi dull cyffredin i ni wedi ei ategu gan ddeddfwriaeth. Ni fydd hyrwyddo ac annog gwaith teg yn ddewis polisi mwyach, lle mae 'gwneud dim' yn opsiwn posibl i Weinidogion a swyddogion, oherwydd bydd dyletswydd arnom i weithredu.

Bydd y Bil hefyd yn cyflwyno dyletswydd ar Weinidogion Cymru i adrodd yn flynyddol ar y gweithgareddau yr ydym ni wedi eu cynnal i hyrwyddo ac annog gwaith teg. Bydd y darpariaethau gwaith teg penodol hyn, ochr yn ochr â'r bartneriaeth gymdeithasol a'r dyletswyddau caffael cynaliadwy yn y Bil, yn rhoi hwb, sicrwydd ac eglurder ychwanegol i'r camau y byddwn yn eu cymryd i ddatblygu gwaith teg.

Felly, bydd y Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus yn cyflawni argymhelliad canolog y Comisiwn Gwaith Teg drwy ddarparu fframwaith i ddefnyddio ein holl ddylanwad a'n hysgogiadau polisi i ddatblygu gwaith teg. Fodd bynnag, nid yw'n ymwneud â deddfwriaeth yn unig. Rydym ni eisoes yn dangos sut y byddwn yn dehongli'r ddyletswydd gwaith teg ac yn rhoi ein hymrwymiad i waith teg ar waith er mwyn sicrhau gwell bargen i weithwyr, rhywbeth yr ydym ni wedi ymrwymo i barhau i'w ddatblygu.

Mae'r fforwm gofal cymdeithasol ar flaen y gad o ran llywio ein dull o gyflawni ein rhaglen ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth i dalu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol. Mae'r pandemig coronafeirws wedi tynnu sylw at y gweithwyr hynny yr ydym yn dibynnu arnyn nhw gymaint, i ofalu am ein hanwyliaid a byw ein bywydau bob dydd. Mewn ymateb i hyn, rydym yn archwilio sut y gall dull partneriaeth gymdeithasol mewn sectorau eraill helpu i ymateb i heriau nid yn unig o ran cyflog ac amodau ond hefyd o ran cynaliadwyedd y sectorau hynny yn gyffredinol, fel lletygarwch a manwerthu. Ac rydym yn parhau i weithio gydag eraill i ddiogelu rhag atchweliad ar hawliau gweithwyr. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid cymdeithasol ac amrywiaeth o randdeiliaid i wella gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o hawliau gweithwyr a ble i gael gafael ar gymorth a chyngor. Rydym ni hefyd yn gweithio i ddatblygu a chyfleu manteision busnes gwaith teg, gan gynnwys hyrwyddo mabwysiadu ac achredu cyflogau byw gwirioneddol. Bydd adnewyddu a chryfhau'r contract economaidd a'r piler gwaith teg ynddo yn arf hanfodol yn ein sgyrsiau parhaus ac wrth ymgysylltu â busnes.

Yn hyn oll, rydym yn ceisio hyrwyddo, drwy gydweithio, fod gan gyflogwyr a gweithwyr fuddiant cyfunol yn y manteision cyffredin o waith teg. Dylai undebau llafur fod yn flaenllaw ac yn ganolog i'r gwaith hwn; nhw yw'r llwybr gorau ar gyfer cynrychiolaeth gyfunol yn y gweithle ac mae ganddyn nhw ran ganolog i'w chwarae nid yn unig wrth wella telerau ac amodau ond yn fwy cyffredinol wrth ddatgloi ein heconomi yn gyffredinol. Gan ystyried hyn, ochr yn ochr â'r Bil, rydym ni wedi ymrwymo i barhau i gyflwyno'r achos cymdeithasol ac economaidd dros undebau llafur ac aelodaeth undebau llafur mewn gweithleoedd yng Nghymru.

Yn ystod datganoli, mae partneriaeth gymdeithasol wedi datblygu i gael ei hystyried fel ffordd Gymreig o weithio. Mae'r deunaw mis diwethaf wedi dangos y tu hwnt i unrhyw amheuaeth werth gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol i fynd i'r afael â'r materion mawr sy'n wynebu Cymru. Mae'r Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus (Cymru) yn ddarn uchelgeisiol a blaengar o ddeddfwriaeth sy'n rhoi'r gwerthoedd hyn wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau mewn Llywodraeth, yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru ac wrth fwrw ymlaen â'n hymrwymiad i Gymru fwy cyfartal. Drwy gydol yr haf, rydym ni wedi gweithio gyda phartneriaid cymdeithasol a rhanddeiliaid allweddol i fireinio'r darpariaethau ac rydym yn parhau ar y trywydd iawn i gyflwyno'r ddeddfwriaeth ym mlwyddyn gyntaf tymor y Senedd hon.

Edrychaf ymlaen at ddod â'r Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus (Cymru) gerbron y Senedd a chydweithio i sicrhau'r manteision hyn i weithwyr yng Nghymru ac i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Ond mae hon yn agenda bwysig na all aros, a byddwn yn parhau i ddefnyddio cyfleoedd anneddfwriaethol i ddatblygu gwaith teg yn y cyfamser.