Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 21 Medi 2021.
Amddiffynnodd y Gweinidog Gwladol yn y Swyddfa Gymreig, David T.C. Davies, unwaith eto yr wythnos diwethaf y penderfyniad y ganslo trydaneiddio prif reilffordd de Cymru i Abertawe, gan ddadlau na fyddai wedi arwain at unrhyw fanteision i deithwyr. Nawr, byddai datgarboneiddio, ar wahân i'w effaith amgylcheddol gadarnhaol, wedi cael y fantais eithaf sylweddol i deithwyr o beidio â'u gwenwyno. Er nad yw seilwaith rheilffyrdd wedi ei ddatganoli, ac eithrio rheilffyrdd craidd y Cymoedd, mae ansawdd aer. Felly, i ba raddau y gall Llywodraeth Cymru gymell Llywodraeth y DU i wyrdroi ei thro pedol ar drydaneiddio a rhoi'r gorau i drin Cymru fel stwmp sigarét rheilffyrdd Prydain?