Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 21 Medi 2021.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, penderfynodd eich Llywodraeth gyflwyno pasiau COVID. Rydych chi a fi wedi trafod rhinweddau neu ddiffyg rhinweddau, yn ôl fel y digwydd, basbortau COVID, ar draws y Siambr hon. Yn amlwg, mae hwnna yn newid eithaf sylweddol o'r hyn y gwnaethoch chi, fel Prif Weinidog, ei ddweud wrthyf i yn ôl ym mis Gorffennaf am eich safbwynt personol. A wnewch chi esbonio i mi, felly, o gyflwyno'r pàs COVID, beth fydd wedi ei gynnwys o dan gategori clwb nos o dan y cyfyngiadau hyn?