Diogelwch Cymunedol yn Ogwr

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 21 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Altaf Hussain Altaf Hussain Conservative 2:10, 21 Medi 2021

(Cyfieithwyd)

Hoffwn i ddatgan buddiant gan fy mod i'n gynghorydd etholedig ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Prif Weinidog, adroddwyd ym mis Gorffennaf fod yr heddlu yn bwriadu defnyddio pwerau i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Aberogwr drwy ddefnyddio gorchymyn gwasgaru. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa mor llwyddiannus fu'r mesur hwn, ac a yw wedi gweithio, a yw'n credu bod mannau eraill lle ceir problemau a all elwa ar hyn? Diolch yn fawr iawn.