1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 21 Medi 2021.
7. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r cynnydd mewn achosion COVID-19 yn etholaeth Caerffili? OQ56893
Llywydd, brechlynnau yw ein hamddiffyniad cryfaf yn erbyn y coronafeirws o hyd. Mae rhaglen atgyfnerthu'r hydref eisoes wedi dechrau yng Nghaerffili. Bydd llythyrau yn gwahodd pobl ifanc 12 i 15 oed i gael eu brechu yn dechrau cyrraedd yr wythnos hon. Yn ogystal â brechu, mae'n rhaid i ni i gyd ddyblu ein hymdrechion i wneud y pethau syml hynny sy'n parhau i'n cadw ni i gyd yn ddiogel.
Un peth sy'n effeithio ar etholaeth Caerffili yw cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer teithio rhyngwladol. Rydym ni wedi clywed eu bod nhw'n mynd i gefnu ar agwedd oren y rhestr bellach a chydgrynhoi'r rhestr werdd. Rwy'n credu bod hynny o 4 Hydref ymlaen. Ond mae Llywodraeth y DU hefyd wedi dweud na fyddan nhw'n gofyn am brawf PCR ar ôl dychwelyd mwyach gan deithwyr sy'n dychwelyd i Loegr yn ddiweddarach ym mis Hydref, ac rwy'n credu eu bod nhw wedi nodi hynny ar gyfer diwedd y gwyliau hanner tymor. Felly, a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog—? Mae gen i bryderon ynghylch hynny a'r effaith ar y data y mae'r Llywodraeth yn gallu eu casglu. Ond a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog pryd bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniad i bobl yng Nghymru? Oherwydd rwyf i wedi cael llawer o etholwyr yn cysylltu â mi i ofyn y cwestiwn hwnnw. Ac os yw'n bosibl, a all roi syniad o'i safbwynt ynghylch hynny heddiw?
Diolchaf i Hefin David am hynny, Llywydd. Mae dull Llywodraeth y DU o ymdrin â theithio rhyngwladol yn ystod y pandemig wedi bod ymysg y rhannau mwyaf anhrefnus o'i hymateb. Mae'n anodd dros ben ddilyn y ffordd y mae'n meddwl yn y maes hwn. Fe wnaethom ni, fel Llywodraeth Cymru, ynghyd ag eraill, ei hannog yn gyson i fabwysiadu dull mwy rhagofalus o amddiffyn ffiniau'r Deyrnas Unedig yn erbyn ailgyflwyno'r coronafeirws i'r DU ac, yn arbennig, cyflwyno amrywiolion newydd a allai fod yn ymddangos mewn mannau eraill yn y byd.
Ddiwedd yr wythnos diwethaf, penderfynodd Llywodraeth y DU gyfuno'r rhestrau gwyrdd ac oren yn un. Nid wyf i'n credu bod gennym ni wrthwynebiad penodol i hynny. Fe wnaethon nhw leihau'r rhestr goch o wledydd, sydd, yn fy marn i, yn peri mwy o bryder. Eto, byddem ni wedi mabwysiadu dull mwy rhagofalus o gadw nifer y gwledydd ar y rhestr goch. Ond y peth a oedd yn peri'r pryder mwyaf oedd eu penderfyniad i symud i ffwrdd o brofion PCR ar ddiwrnod dau ar ôl i rywun ddychwelyd o dramor, oherwydd dyna oedd yr amddiffyniad cryfaf yn erbyn ailgyflwyno feirysau o fannau eraill yn y byd.
Yng Nghymru, rydym ni'n dilyn cyfran uwch o brofion ar sail genomig nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, a'r gwaith dilyn hwnnw sy'n caniatáu i'r gwyddonwyr medrus iawn sy'n ei wneud nodi amrywiadau newydd yn y coronafeirws. Heb brawf PCR, mae'n anodd iawn gweld sut y bydd Llywodraeth y DU yn gallu gwneud hynny. Felly, mae gennym ni ein penderfyniad ein hunain i'w wneud. Mae'n benderfyniad anodd iawn mewn ystyr ymarferol gan fod cynifer o deithwyr o Gymru yn dychwelyd i Gymru drwy borthladd neu faes awyr yn Lloegr, ac nid yw hysbysebu iddyn nhw fod system ar wahân ar gyfer Cymru, a'i chyfleu iddyn nhw bryd hynny, yn rhywbeth y mae porthladdoedd Lloegr wedi bod yn awyddus i'w wneud. Serch hynny, rydym ni'n parhau i ystyried y mater, a'i drafod gyda'r rhai y byddai'n rhaid i ni ddibynnu arnyn nhw, a byddwn yn gwneud penderfyniad ar y mater yn fuan.
Dylai'r ateb gwirioneddol fod wedi cynnwys cadw profion PCR ar ddiwrnod dau ledled y Deyrnas Unedig, ac rwy'n credu bod y methiant i wneud hynny yn gam i ffwrdd oddi wrth y ddyletswydd sydd gan Lywodraeth y DU i iechyd pobl yn y wlad hon.