Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 21 Medi 2021.
Diolchaf i'r Aelod am hynny, Llywydd. Rydym ni'n gweithio'n agos gyda'r heddlu ac asiantaethau eraill sy'n gyfrifol am ddiogelwch cymunedol yn Ogwr. Yn ddiweddarach yr wythnos hon bydd fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, yn cadeirio bwrdd partneriaeth plismona Cymru, lle mae materion diogelwch cymunedol bob amser ar yr agenda.