Cyflog Byw

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 21 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:12, 21 Medi 2021

Diolch, Brif Weinidog. Mae hwn, wrth gwrs, wedi dangos y buddion economaidd sy'n dod i ardaloedd lleol pan fydd y sector cyhoeddus ac awdurdodau lleol yn enwedig, efallai, yn achredu fel cyflogwyr cyflog byw, achos maen nhw yn sefydliadau angori, allweddol yn y cymunedau hynny. Mewn datganiad yn 2019, fe wnaethoch chi ddweud y byddech chi'n ysgrifennu at bob corff cyhoeddus yng Nghymru yn gofyn iddyn nhw gyflawni achrediad cyflog byw. Allwch chi ddweud wrthym ni, felly, os yw pob awdurdod lleol yn benodol wedi ymateb yn bositif i'r cais yna ac yn symud i'r cyfeiriad yna yn rhagweithiol? Os nad ydyn nhw, yna beth ŷch chi fel Llywodraeth yn ei wneud i'w hannog nhw i weithredu ar hynny? Ac yn olaf, erbyn pryd ŷch chi fel Llywodraeth yn rhagweld y bydd pob awdurdod lleol yng Nghymru yn dod yn gyflogwr cyflog byw achrededig?