Part of the debate – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 21 Medi 2021.
Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn; ni ddylai'r gwerthfawrogiad sydd gennym ni am ein cyn-filwyr byth gael ei anghofio. Byddwch chi'n ymwybodol o'r gefnogaeth sylweddol y mae Llywodraeth Cymru yn ei darparu i'n cyn-filwyr. Mae'r cwestiwn penodol yr oeddech chi'n ei ofyn ynghylch llinell gymorth 24/7 yn rhywbeth rwy'n gwybod y mae'r Dirprwy Weinidog, sydd yn y Siambr ac wedi clywed eich cwestiwn, yn ei ystyried.