Part of the debate – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 21 Medi 2021.
Diolch. Fel y gwyddoch chi, rhoddodd Llywodraeth Cymru'r pecyn cymorth mwyaf hael i'n busnesau yn ystod pandemig COVID-19. Roedd gennym ni'r gronfa cadernid economaidd unigryw. Yn amlwg, ni allaf i wneud sylw ar achos unigol, a byddwn i'n eich cynghori chi, os ydych chi'n teimlo—. Er, yn amlwg, na allem ni helpu pob busnes, roeddem ni'n awyddus iawn nad oedd busnesau'n disgyn drwy fylchau amrywiol y gwahanol gronfeydd, a byddwn i'n eich annog chi i ysgrifennu at y Gweinidog yn uniongyrchol ynghylch eich achos penodol.