Part of the debate – Senedd Cymru am 2:58 pm ar 21 Medi 2021.
Diolch, Cefin Campbell, ac am eich geiriau o groeso i'r datganiad. Fe ddywedais i y byddem ni'n parhau â'r Cynllun Taliad Sylfaenol tan ddiwedd 2023. Nid oeddwn i'n dweud mai dyna fyddai'r diwedd; yr hyn yr oeddwn i'n ceisio ei fynegi oedd rhywfaint o sefydlogrwydd i'n sector ffermio ni, oherwydd, cyn heddiw, nid oeddwn i wedi cyhoeddi y byddai hwnnw'n parhau yn 2023. Felly, sôn am 2024 yr ydych chi—fel y dywedais i, mae hyn i gyd yn ddibynnol ar gyllid. Ni allwch chi edrych yn rhy bell ymlaen. Rydych chi'n gofyn am gynlluniau wrth gefn, er enghraifft. Fel rydych chi'n dweud, roeddem ni £137 miliwn yn brin eleni. Felly, rwyf i yn cael trafodaethau, rwy'n cyfarfod â George Eustice, Ysgrifennydd Gwladol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn rheolaidd ac mae hynny ar yr agenda bob amser. Efallai eich bod chi wedi fy nghlywed i'n dweud—fe wn i y bydd eich cyd-Aelodau chi a oedd yn bresennol yn ystod tymor blaenorol y Llywodraeth wedi fy nghlywed i'n dweud droeon—rydym ni'n gofyn i un o Weinidogion y Trysorlys ddod i'n cyfarfod DEFRA IMG ni ac nid ydym ni erioed wedi gweld hynny'n digwydd. Nid yw'n hynny'n wir am gyfarfodydd gweinidogol pedairochrog eraill, ond yn anffodus mae hynny'n wir am un DEFRA, felly casglwch chi'r hyn a fynnwch chi o hynny. Ond fe wn i, er tegwch, fod Ysgrifennydd Gwladol DEFRA yn cytuno â mi o ran sicrhau cyllid, ac rwyf innau'n ceisio ei helpu ef wedyn i lobïo'r Trysorlys. Fe fyddwn ni'n parhau i wneud hynny. Yn amlwg, mae fy nghyd-Aelod i, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, yn cael trafodaethau gyda'r Trysorlys am lawer o wahanol bynciau, ond mae hon yn flaenoriaeth bendant i ni.
Fe wnaethom ni ddweud y byddem ni'n neilltuo'r cyllid a gawsom ni ar gyfer amaethyddiaeth, ond os ydych chi'n neilltuo dim oll, nid oes llawer iawn o werth yn hynny, oes yna? Felly, nid oes gan Lywodraeth Cymru mo'r arian yr ydym ni'n sôn amdano—y £137 miliwn—ar gael yn rhwydd i'w ddefnyddio yn ein cyllideb. Fe fyddai'n rhaid i mi gyflwyno achos drosto, yn union fel mae fy nghyd-Aelodau yn cyflwyno achosion dros gyllid wrth fwrdd y Cabinet. Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw bod Llywodraeth y DU yn cadw at eu gair nhw na fyddem ni'n colli'r un geiniog pe baem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac rwyf i o'r farn y dylem ni ymuno â'n gilydd yma yn y Senedd i sicrhau eu bod nhw'n cyflawni hynny yn ei gyfanrwydd.
Roeddech chi'n gofyn am yr asesiadau manwl o effaith, ac mae'r adroddiad, yn anffodus, ychydig yn hwyr. Rwy'n disgwyl ei gael nawr yn y flwyddyn newydd. Rydych chi'n sylweddoli, rwy'n siŵr, bod COVID wedi rhwystro cryn dipyn ar y gwaith yr ydym ni wedi gallu ei wneud gyda'n rhanddeiliaid ni. Mae'n fy nharo i'n fawr ein bod ni wedi llwyddo i weithio gyda 2,000 o ffermwyr a rhanddeiliaid dros y 18 mis diwethaf, oherwydd, yn amlwg, nid oeddem ni'n gallu gwneud cymaint ag yr oeddem ni'n awyddus i'w wneud ar y dechrau. Felly, yn anffodus, fe gafodd yr adroddiad ei ohirio am ychydig, ond rwy'n disgwyl ei gael yn y flwyddyn newydd 2022.
Roeddech chi'n gofyn hefyd am y canlyniadau amgylcheddol a nwyddau cyhoeddus, ac, yn amlwg, yn y cynllun ffermio cynaliadwy, dyma yr ydym ni'n chwilio amdano fel ateb i'r argyfyngau hinsawdd a natur. Mae'n rhaid i mi ddweud bod y sector amaethyddol yn sicr yn ystyried ei hun yn rhan o'r datrysiad, ac mae nhw mor gadarnhaol a hynny bob amser yn gwneud argraff fawr arnaf i o ran sut y gallan nhw ein helpu ni i gyflawni hynny. Pan edrychwch chi ar yr hyn nad ydyn nhw'n cael arian ar ei gyfer ar hyn o bryd, yr hyn nad ydyn nhw'n cael eu gwobrwyo amdano am y tro, fe welwch chi'r ansawdd pridd ardderchog a'r ansawdd dŵr a'r storio carbon y mae'r rhan fwyaf o ffermwyr yn ei ddarparu. Ar hyn o bryd, nid ydyn nhw'n cael eu gwobrwyo am hynny, a chyda'r cynllun ffermio cynaliadwy, fe fyddan nhw.
O ran y ffermwr gweithredol, rwyf wedi bod yn awyddus iawn i ddefnyddio'r gair hwnnw 'gweithredol'; mae hynny'n bwysig iawn, ein ffermwyr gweithgar ni sydd i'w gwobrwyo ag arian cyhoeddus, ac rwy'n rhoi ystyriaeth fawr i ddiffiniad hynny, yn sicr. Pan ydych chi'n sôn am goetir, rwy'n dyfalu eich bod yn cyfeirio at y ffaith ein bod ni, yn anffodus, wedi gweld rhywfaint o dir ffermio yn cael ei werthu i gwmnïau rhyngwladol, er enghraifft, ar gyfer gwrthbwyso carbon. Ni allwn ni ddweud wrth bobl i bwy y dylen nhw werthu eu ffermydd, ac fe gefais i sgwrs ddiddorol iawn gyda'r ffermwr ynghylch pam y cafodd y tir ffermio hwnnw ei werthu. Felly, rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cefnogi ein ffermwyr gweithgar, ac yn sicr fe fydd y cynllun hwn yn ceisio gwneud felly.