Part of the debate – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 21 Medi 2021.
Wel, mae Plaid Cymru hefyd yn croesawu'r datganiad hwn a'r cyfle i drafod a chraffu ar y cynigion ar gyfer diwygio ffermio yng Nghymru, a fydd, mae'n siŵr, yn cael yr effaith hirdymor fwyaf ar y sector amaethyddol ers cenhedlaeth. Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, yn cefnogi y cynlluniau sy'n darparu sefydlogrwydd economaidd a hefyd gynaliadwyedd amgylcheddol i ffermwyr. Ond heb gynigion manwl ar faint y bydd ffermwyr yn cael eu talu am gynlluniau ffermio cynaliadwy, a heb unrhyw asesiadau effaith manwl, mae efallai'n rhy fuan i ddweud pa effaith y bydd y cynlluniau hyn yn eu cael. Ond, rhaid inni weithio gyda'n gilydd, fel ŷch chi wedi dweud, ar draws y sector a gyda ffermwyr i'w helpu i gyrraedd eu nod o fod yn net sero carbon.
Felly, yn debyg iawn i'r cwestiwn mae Sam Kurtz wedi'i ofyn, mae'r datganiad yn cadarnhau bod y Llywodraeth yn bwriadu dod â thaliadau sylfaenol i ben yn 2023 a dechrau cynllun newydd yn 2025. Felly, mae yna rywfaint bach o ansicrwydd ynglŷn â sut mae ffermwyr yn mynd i gynnal eu bywoliaeth yn ystod 2024. Ac fe gyfeirioch chi at y ffaith bod hyn yn ddibynnol, i raddau helaeth, ar gael arian gan Lywodraeth San Steffan. Felly, dwi am ofyn eto i chi ynglŷn â sicrwydd a pha gynlluniau wrth gefn sydd gyda chi i gynnal ffermwyr yn ystod y flwyddyn arbennig honno, cyn bod y cynllun newydd yn dechrau.
I symud ymlaen at bwynt arall, yn ymateb eich Llywodraeth chi i'r crynodeb o'r ymgynghoriad, ŷch chi'n dweud bod yna gyfnod pontio dros nifer o flynyddoedd i alluogi ffermwyr i drosglwyddo o daliadau sylfaenol i gynllun ffermio cynaliadwy. Yn naturiol, mae angen cyfnod pontio teg er mwyn sicrhau sefydlogrwydd, ac, yn Lloegr, dwi'n deall bod hynny'n gyfnod o ryw saith mlynedd. A wnaiff y Gweinidog amlinellu, felly, ba mor hir mae hi'n rhagweld y bydd y cyfnod pontio yng Nghymru? Am faint mae'r taliadau sylfaenol yn mynd i barhau, a dros faint o gyfnod bydd y taliadau'n cael eu lleihau er mwyn symud tuag at gynlluniau mwy amgylcheddol? Ac a wnaiff hi gyhoeddi'r dadansoddiad a'r rhaniad ar gyfer y cyfnod pontio hwn cyn cyhoeddi'r Bil amaeth y flwyddyn nesaf?