Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 21 Medi 2021.
Nawr, ni fydd ein gwaith o gydgrynhoi cyfraith cynllunio yn cynnwys tresmasu gwartheg ac aredig, ond bydd yn darparu datganiad cynhwysfawr ar ddefnyddio tir, gyda chymorth cynigion Comisiwn y Gyfraith i symleiddio a moderneiddio'r gyfraith yn y maes hwn. Mae'r system gynllunio yn hanfodol i lunio datblygu a lleoedd cynaliadwy, gan helpu twf economaidd, ac adlewyrchu ystyriaethau cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ar yr un pryd. Mae system gynllunio effeithiol ac effeithlon yn hanfodol i gymdeithas sifil, ac mae angen symleiddio ac atgyfnerthu’r gyfraith er mwyn cyflawni hyn yn llawn.
Bydd cydgrynhoi sawl Deddf sy'n bodoli eisoes yn un Ddeddf sydd wedi'i drafftio'n dda ac yn ddwyieithog yn un o'n dulliau mwyaf effeithiol o wella hygyrchedd cyfraith Cymru. Rwyf eisoes wedi cyhoeddi y byddwn yn cydgrynhoi'r gyfraith ar yr amgylchedd hanesyddol, a gallaf yn awr roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein cynnydd. Byddaf yn cyflwyno'r Bil hwn yn 2022, gyda'r bwriad o ddisodli'r gyfraith bresennol sy'n ddegawdau oed ac sydd wedi'i diwygio dro ar ôl tro ac yn wahanol mewn perthynas â Chymru, Lloegr a'r Alban. Mae hyn wedi gadael cwlwm dryslyd mae hyd yn oed gweithwyr cyfreithiol proffesiynol yn eu cael yn gymhleth, a dim ond yn Saesneg mae'r rhan fwyaf ohono ar gael. Mae'r gwaith sydd eisoes wedi'i wneud ar y Bil drafft yn dangos y manteision a ddaw yn sgil cydgrynhoi. Mae deddfwriaeth ar gyfer adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig wedi'i dwyn ynghyd a'i hailddatgan i'w gwneud yn fwy rhesymegol, yn haws ei darllen ac yn fwy cyson yn fewnol ar draws y gwahanol ddarpariaethau. Yn y dyfodol, bydd defnyddwyr yn gallu troi at un darn o ddeddfwriaeth sylfaenol ar gyfer y gyfraith ar reoli a diogelu'r amgylchedd hanesyddol, a bydd y gyfraith honno'n cael ei gwneud i Gymru yn unig a bydd yn gwbl ddwyieithog.
Mae'r rhaglen hefyd yn nodi meysydd eraill o'r gyfraith lle byddwn yn asesu gwerth a photensial cydgrynhoi, gyda'r bwriad o gyflwyno dau Fil arall cyn diwedd tymor y Senedd hon. Ochr yn ochr â'r prosiectau deddfwriaethol yn y rhaglen hon, rydym hefyd yn ceisio ehangu a datblygu ein gwefan Cyfraith Cymru/Law Wales, sy'n darparu deunydd esboniadol a chanllawiau am gyfraith Cymru. Gallaf gadarnhau hefyd ein bod yn dechrau'r dasg hir-ddisgwyliedig o sicrhau bod testun Cymraeg ein deddfwriaeth ar gael ar ffurf gyfoes.
Mae trefniadau bellach ar waith i weithio ochr yn ochr â'r tîm rhagorol y tu ôl i wefan legislation.gov.uk ac, ymhen amser, byddwn yn gyfrifol am ddiweddaru holl ddeddfwriaeth Cymru ar y wefan hon. Rydym hefyd yn gweithio i wella ymarferoldeb legislation.gov.uk i alluogi defnyddwyr i chwilio cyfraith Cymru yn ôl pwnc.
Mae lleoli a threfnu'r gyfraith yn ôl pwnc wrth wraidd ein gwaith i ddatblygu codau cyfraith Cymru. Bydd cydgrynhoi a strwythuro'r gyfraith fel hyn, ynghyd â chyngor ac arweiniad, yn ei gwneud yn haws i bobl ddod o hyd i'r gyfraith a bod â hyder o ran cywirdeb y deunyddiau sy’n cael eu hadfer.
Rydym yn cynhyrchu deddfwriaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg, wrth gwrs, ac mae gan y ddau destun statws cyfartal yn y gyfraith. Mae gwneud deddfwriaeth sy'n glir ac yn gywir mewn dwy iaith yn gofyn i ni ddysgu oddi wrth eraill ledled y byd, ond hefyd i arloesi ein hunain, ac rydym wedi datblygu cryn arbenigedd dros yr 20 mlynedd diwethaf. Bydd yr arbenigedd hwnnw'n ein rhoi mewn sefyllfa dda wrth i ni geisio gwella hygyrchedd y testun deddfwriaethol yn y ddwy iaith, gan ddefnyddio cystrawen syml i gyfleu'r hyn a all fod yn gysyniadau cymhleth. Yn yr un modd, wrth i dechnoleg iaith newydd wella, ein nod yw awtomeiddio a chyflymu rhannau o'r broses gyfieithu, gan alluogi drafftwyr a chyfieithwyr i gydweithio'n agosach i wella'r ddau destun a'u gwneud yn haws i'w dilyn. Rydym hefyd yn cwblhau prosiect hirdymor i safoni cannoedd o dermau a'u cyhoeddi ar borth BydTermCymru.
Mae datblygu deddfwriaeth yn dal i fod yn ymgymeriad cymharol newydd i'r Senedd a Llywodraeth Cymru, ac rydym yn parhau i ddysgu oddi wrth eraill. Ond, wrth i ni edrych ymlaen dros y pum mlynedd nesaf, gallwn hefyd edrych yn ôl ar ein gorffennol ein hunain, gan gofio ein bod, yn ogystal â dilyn arfer da o fannau eraill, yn dilyn dulliau llwyddiannus ein cyndeidiau wrth ddatblygu codau cyfraith Cymru. Felly, rwy'n diolch i'r Aelodau am eu cefnogaeth i'r nod hwn. Gwn y bydd yn parhau. Diolch, Llywydd.