5. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Codau cyfraith Cymru: Rhaglen i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:25 pm ar 21 Medi 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhys ab Owen Rhys ab Owen Plaid Cymru 4:25, 21 Medi 2021

Fel rŷch chi wedi dweud droeon, Cwnsler Cyffredinol, nid yw sofraniaeth Cymru bellach yn nwylo dynion fel Hywel Dda, ond yn hytrach fan hyn gyda phobl Cymru. Wedi dweud hynny, mae ysbryd Hywel Dda ac ysbryd Iorwerth ap Madog ar gerdded yn ein Senedd ni heddiw. Croesawaf hynny a mawr obeithiaf y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau yn yr ysbryd hwnnw ac yn datblygu ac yn amddiffyn cyfraith Cymru yn wyneb gwrthwynebiad mawr San Steffan. Diolch yn fawr.