Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 21 Medi 2021.
Diolch yn fawr iawn i chi, Llywydd dros dro. Cwnsler Cyffredinol, rwy'n croesawu'r datganiad yma yn fawr iawn. Hefyd, rwy'n croesawu'r sôn am gyfreithiau Hywel sydd ar gychwyn eich datganiad. Mae'n bwysig ein bod ni'n chwalu'r myth fan hyn yn y Senedd nad oes yna hanes cyfoethog a threftadaeth gyfoethog gyfreithiol yma yng Nghymru. Yn ôl llinyn mesur yr oes, roedd gan gyfreithiau Hywel Dda statws llawer gwell na chyfreithiau mewn systemau cyfreithiol gwahanol, ac roedden nhw'n rhoi statws llawer uwch i fenywod na nifer o systemau cyfreithiol gwahanol y cyfnod.
Mae hygyrchedd cyfraith Cymru yn broblem—mae'n broblem i'r cyhoedd ac mae hefyd yn broblem i ymarferwyr. Mae datblygu gwefannau fel Cyfraith Cymru yn hollbwysig, ond mae'r gwaith ar legislation.co.uk, os rhywbeth, yn bwysicach fyth. Oherwydd mae hynny, yn groes efallai i beth ddywedodd Mark Isherwood wrth gyfeirio ato, yn cael defnydd helaeth gan y cyhoedd, yn enwedig, fel rydych chi wedi cyfeirio ati, Cwnsler Cyffredinol, yn dilyn toriadau llym gan y Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan i gymorth cyfreithiol. Pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda chwmnïau megis Westlaw a Lawtel, sy'n darparu lot o wybodaeth i ymarferwyr cyfreithiol? Y rheini y mae ymarferwyr cyfreithiol yn eu defnyddio yn gyson.
Mae codeiddio yn hollbwysig, a rŷn ni mewn sefyllfa ffodus yng Nghymru fod yna nifer cymharol fach o ddeddfwriaeth gyda ni, ac felly bod modd i ni wneud hyn, a bod modd i ni wneud hyn yn gynnar yn ein hanes yn ailddatblygu cyfreithiau Cymru. Byddai'n dipyn anoddach, wrth gwrs, i ddeddfwrfeydd eraill wneud hynny. Dwi'n falch o glywed fod yna adroddiad blynyddol yn mynd i fod ar ddatblygiad y gwaith, ond beth yw eich nod chi ynglŷn â chodeiddio a hygyrchedd y gyfraith erbyn diwedd y tymor yma?