Part of the debate – Senedd Cymru am 4:26 pm ar 21 Medi 2021.
A gaf i ddiolch i'r Aelod, fel erioed, am gyfres o sylwadau a chwestiynau pellgyrhaeddol ac eang iawn? Rwy'n amau pe bawn i'n ateb pob un ohonyn nhw yn fanwl, byddwn i'n denu dicter y Llywydd, ond fe wnaf i fy ngorau o fewn yr amser sydd ar gael i mi. [Chwerthin.]
A gaf i ddweud yn gyntaf o ran cynllunio—ac, wrth gwrs eich bod chi'n iawn, mae'n faes hynod gymhleth—fod y gwaith arno ar y gweill? Rwyf i ar ddeall y bydd y fersiwn Saesneg a'r fersiwn Gymraeg ill dau yn unigol yn cynnwys rhywbeth fel 400 tudalen o ddeddfwriaeth, a phopeth a fydd yn deillio hynny. Felly, mae cymorth Comisiwn y Gyfraith o fewn y broses honno yn hynod werthfawr.
Rwy'n credu bod yn rhaid i ni hefyd wahaniaethu rhwng y mater o gydgrynhoi yn hytrach na diwygio, ac rydych chi'n llygad eich lle am y meysydd, y problemau a'r materion sy'n cael eu codi gyda ni fel Aelodau'r Senedd yn y capasiti honno o ran diwygio. Ond mae hefyd yn bwysig deall nad yw'r broses cydgrynhoi yn un yr ydym ni, i bob pwrpas, yn dymuno ei gweld—. Hynny yw, nid ydym ni eisiau clymu holl gapasiti y Senedd fwy neu lai yn nhermau deddfwriaeth a chraffu i ddiwygio'r gyfraith gynllunio gyfan mewn gwirionedd, oni bai bod hynny'n dod yn rhan benodol o'r rhaglen ddeddfwriaethol. Yn hytrach rydym ni eisiau cymryd yr hyn sydd yno a'i roi at ei gilydd a'i gydgrynhoi yn ddarn mor syml â phosibl o ddeddfwriaeth y gellir wedyn ei godio o dan bennawd cynllunio, fel y bydd dinasyddion yng Nghymru yn gwybod ble mae'r gyfraith mewn un lle, a byddai ar gael yn gyfartal yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Felly, mae honno'n broses bwysig wahanol i'r un lle byddai diwygio a'r holl ddadleuon dros y math o ddiwygio, ac yn y blaen. Pe baem yn mynd ar hyd y trywydd penodol hwn, rwy'n credu y byddai cydgrynhoi fel prosiect yn dirwyn i ben ymhen rhai blynyddoedd. Ond yr hyn yr ydym ni yn edrych arno yw ble mae cyfleoedd mewn deddfwriaeth a allai ddod i'r amlwg. Rwy'n credu y gwnes i sôn am un ohonyn nhw pan oeddwn i'n rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, sy'n gwneud gwaith mor bwysig yn y maes hwn, oedd bod meysydd lle bydd gwahaniaeth yn y gyfraith bron yn sicr o ganlyniad i ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU. Mae'n ddigon posibl y byddwn ni'n dymuno dod â'n deddfwriaeth diwygio etholiadol ein hunain, ac mae hynny wedyn yn darparu cyfleoedd ar gyfer diwygio ac i gydgrynhoi yn effeithiol mewn un lle, ac yn Gymraeg ac yn Saesneg. Felly, gallwn ni gyflawni rhai o'r gofynion hynny mewn ffyrdd penodol eraill. Felly, mae'n bwysig iawn cael pwyslais ar hynny yn rhan o'r broses sydd ar y gweill.
Wrth gwrs, rydych chi wedi nodi materion dargyfeirio. Maen nhw'n faterion yr ydym ni wedi eu trafod yn y Siambr hon droeon, sef bod Senedd y DU, wrth gwrs, yn pasio cyfreithiau ar gyfer Cymru a Lloegr sy'n aml yn berthnasol i Loegr yn unig, ac yng Nghymru rydym ni'n pasio cyfreithiau ar gyfer Cymru sy'n berthnasol i Gymru yn unig. Nid ydym yn pasio cyfreithiau ar gyfer Cymru a Lloegr yn gyfartal yn y fformat penodol hwnnw. Felly, rydych chi'n iawn bod yr anghysonderau hynny yn y broses, yn fy marn i. Maen nhw'n rhannol yn wleidyddol yn y canfyddiad o swyddogaeth Senedd y DU wrth ddeddfu a sut y mae'n deddfu. Mae'r materion hynny yn parhau ac maen nhw'n dod i'r amlwg yn rheolaidd, rwy'n credu, ym mhob un o'r gwahanol eitemau o ddeddfwriaeth sy'n dod gan Lywodraeth y DU y mae'n rhaid i ni eu hystyried a phan fo'n rhaid i ni ystyried memoranda cydsyniad deddfwriaethol. Ymdrinnir â nhw yn aml ar sail portffolio gweinidogol unigol, ond mae'r materion hynny yn codi'n rheolaidd. Os byddwn yn gwneud cynnydd ar y rhaglen ddiwygio rynglywodraethol sydd ar y gweill, efallai y bydd cyfleoedd i osod egwyddorion pellach yn y dyfodol o ran y ffordd y caiff deddfwriaeth ei datblygu a'i gweithredu a'r ffordd y caiff gwrthdaro ac anghytundebau eu datrys mewn gwirionedd.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at bwysigrwydd hygyrchedd, ac rwy'n cytuno yn llwyr â chi, yn gyntaf, fod y camau yr ydym yn eu cymryd yn sylfaenol bwysig o ran hygyrchedd. Os nad ydych chi'n gwybod beth yw'r gyfraith, ble mae hi, pa un a ydych chi'n ddinesydd, pa un a ydych chi'n ymarferydd neu beth bynnag, nid yw'r hygyrchedd hwnnw yn bodoli. Ac mae'n deg dweud, wrth i chi edrych ar lawer o ddeddfwriaeth, neu gyfreithiau Llywodraeth y DU—. Os cymerwch chi addysg er enghraifft ac edrych yno i ddarganfod ble mae'r gyfraith, byddech yn treulio cryn amser yn ceisio darganfod ble mae hi, beth sy'n dal i fod mewn grym, beth sy'n dal i fod yn berthnasol, ac yn y blaen. Yr atyniad i ni o ran cydgrynhoi a chodio yw hyn: pan fyddwn ni wedi cydgrynhoi cyfraith mewn maes pwysig, mae gennym ni'r cyfle wedyn pan fyddwn yn gwneud gwelliannau i beidio â chyflwyno cyfraith newydd, ail gyfraith a thrydedd gyfraith a'r holl ddarnau dilynol hyn o is-ddeddfwriaeth, ond yr hyn yr ydym yn ei wneud yw diwygio'r gyfraith sydd gennym ni. Felly, mae gennym ni un darn o ddeddfwriaeth mewn un lle o hyd, ond dyna yr hyn yr ydym ni'n ei newid, a dyna'r amcan mewn ystod eang o feysydd. Mae amgylchedd hanesyddol yn faes pwysig yn fy marn i. Mae llawer o ddiddordeb ynddo. Mae yn effeithio ar lawer o agweddau ar fywyd diwylliannol a hanesyddol Cymru. Felly, rwy'n credu bod hynny'n un pwysig sy'n datblygu. Ond fel y soniais yn fy ymateb i Mark Isherwood, wrth gwrs bod meysydd eraill yr ydym ni'n edrych arnyn nhw sy'n barod i'w gwneud ar yr adeg briodol.
O ran yr agwedd arall ar hygyrchedd, ac rwy'n credu ein bod ni'n cytuno'n llwyr arni, hynny yw hyn: os na all pobl gael gafael ar y gyfraith eu hunain a chael eu cynrychioli yn y gyfraith, yna mae hynny'n gyfyngiad sylweddol ar hygyrchedd cyfraith y dinasyddion. Rwyf i wedi dweud yn y gorffennol yr hoffwn i ein gweld ni yn meddu ar ein system cymorth cyfreithiol Cymru ein hunain. Un o argymhellion comisiwn Thomas oedd i hynny ddigwydd, neu i'r broses ddechrau yn hynny o beth. Rwyf i'n teimlo, os na all pobl gael cynrychiolaeth, nad oes ganddyn nhw fynediad gwirioneddol a'u bod wedi eu datrymuso o fewn y system gyfreithiol. Pan es i ar ymweliad â llysoedd cyfiawnder sifil Caerdydd rhai wythnos yn ôl a chwrdd â'r barnwyr a rhai o'r staff yno, pan fyddwch chi'n clywed bod yna rai yn y llysoedd teulu y mae eu hygyrchedd ar faterion o bwys mawr i'w teulu, i'w plant ac yn y blaen, yn dibynnu ar gael mynediad i'r llysoedd drwy ffôn symudol, yna mae'n amlwg nad yw hynny yn rhywbeth sy'n foddhaol. Ac, wrth gwrs, mae nifer o'r rhain yn faterion yr oeddwn i wedi bwriadu eu trafod gyda'r Arglwydd Ganghellor a'r Gweinidog Cyfiawnder, Robert Buckland, yr wythnos diwethaf. Bu ad-drefnu. Mae newid yno. Felly, gobeithio y bydd y sgwrs honno a'r trafodaethau hynny yn parhau, ond yn amlwg gydag Arglwydd Ganghellor newydd. Rwyf i yn gobeithio fy mod i wedi ateb yr holl bwyntiau a godwyd gennych.