Part of the debate – Senedd Cymru am 6:00 pm ar 22 Medi 2021.
Cadarnhaodd un archfarchnad y llwyddais i siarad â hwy am hyn i gyd eu bod yn defnyddio mesurydd Brix yn eu ffatrïoedd i brofi siwgrau, asidau a gwead eu cynhyrchion cyn iddynt eu pacio a'u danfon i'w siopau, ond nid ydynt yn eu profi am ansawdd maethol oni bai bod ganddynt rywbeth y maent am herio'r cyflenwr yn ei gylch, ond ni fyddant yn gwneud hynny fel mater o drefn. Ond mae'n declyn a ddefnyddir gan nifer o archfarchnadoedd, os nad pob un ohonynt, ac nid wyf wedi llwyddo i gyrraedd pob un ohonynt eto, ond fe wnaf.
Nawr, daw'r enw o waith fferyllydd o'r Almaen, yr Athro Brix, yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, sef y person cyntaf, mae'n debyg, i fesur dwysedd sudd planhigion, ac ysbrydolodd hyn ddatblygiad mesurydd Brix yn y 1970au i alluogi tyfwyr i astudio sut y mae dwysedd maethol planhigyn yn amrywio yn dibynnu ar ansawdd y pridd a'r ffordd y caiff y planhigyn ei dyfu. Mae tablau Brix yn galluogi tyfwyr i sgorio llwyddiant neu fel arall eu menter ac addasu eu harferion neu eu lleoliad yn unol â hynny. Nawr, mae hyn yn rhywbeth y mae pob garddwr yn poeni yn ei gylch, ond gallwch ddychmygu bod gwinwyddwyr, sy'n gweithio i fusnesau gwerth miliynau o bunnoedd, yn awyddus iawn i ddefnyddio'r dull hwn i'w galluogi i wahaniaethu rhwng gwin plonc a'r gwin penigamp a fydd yn ennill gwobrau o'r radd flaenaf iddynt. Nid oes amheuaeth mai grawnwin yw'r cynnyrch sy'n dangos bod dwysedd maethol grawnwin yn llawer uwch na phob cynnyrch arall a brofwyd.
Felly, beth oedd y canlyniadau yng Nghaerdydd? Profwyd afalau, moron, letys, tatws a thomatos o bob un o'r pum siop, ac aseswyd y canlyniadau ar gyfer pob llysieuyn neu ffrwyth drwy raddio'r sgôr Brix cyfartalog uchaf i roi sgôr a fyddai'n eu gosod yn gyntaf, ail, trydydd, pedwerydd a phumed. Nawr, cafodd y sgoriau hyn eu cyfansymio i roi gwerth cyffredinol. Efallai na fyddwch yn synnu mai'r tyfwr organig a gasglodd ei gynnyrch ei hun a gafodd y sgôr uchaf i gyd, ond dilynwyd hynny gan y stondin stryd a oedd wedi prynu eu holl gynnyrch y bore hwnnw o farchnad gyfanwerthol Caerdydd yn Bessemer Road. O archfarchnad y daeth yr afalau a gafodd y sgôr uchaf, felly mae llawer iawn o gymhlethdod yn hyn. Ond un pwynt i'w grybwyll wrth fynd heibio yw na wnaeth y tablau Brix ar gyfer yr un o'r cynhyrchion hyn roi sgôr 'ragorol'. Dim ond dwy eitem oedd yn dda, a'r ddwy ohonynt gan y darparwr organig. Y rheswm am hynny yw bod iechyd ein pridd mewn cyflwr ofnadwy, ond mae honno'n ddadl ar gyfer diwrnod arall.
Rwyf am droi yn awr at sut y gallai dwysedd maethol lywio'r broses o gaffael bwyd yn gyhoeddus a'r hyn y gallai hynny ei wneud i iechyd ein gwlad. Yn gyntaf oll, prydau ysgol. Mae adroddiad 'Bwydo ein Dyfodol' gan Pys Plîs, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, yn tynnu sylw at gyn lleied o lysiau sy'n cael eu bwyta mewn ysgolion, hyd yn oed mewn amseroedd arferol. Nid ni yw'r gwaethaf yn y DU, ond nid ni yw'r gorau chwaith, a datgelodd eu harolwg Eat your Greens nad oedd dros chwarter y disgyblion yn bwyta unrhyw lysiau o gwbl pan fyddent yn bwyta cinio yn yr ysgol, a phan ofynnwyd pam, roedd yr atebion yn amrywio o 'maent wedi'u gorgoginio' i 'maent o ansawdd gwael' i 'nid ydynt yn apelio.' Rwy'n credu, yn gyffredinol, eu bod yn sôn sut nad ydynt yn hoffi'r blas. Mae eu hadroddiad yn galw am ffocws newydd ar safonau caffael yn ogystal â buddsoddi mewn sgiliau arlwyo. Mae'n ymddangos i mi fod blas yn allweddol, oherwydd mae plant yn deall hynny. Mae gofyn i ddisgyblion flasu bwydydd bob dydd yn ddall yn dangos mai'r rhai y maent yn tueddu i'w hoffi orau oedd y rhai sy'n sgorio uchaf ar dablau Brix, oherwydd eu bod yn blasu'n well. Dyna'r hyn y mae'r cynnwys maethol, y mwynau a'r fitaminau, yn ei ddweud wrthych.
Yn wir, pe bai safonau arlwyo mewn ysbytai hefyd yn rhoi sylw i ddwysedd maethol y bwyd y maent yn ei weini, lle mae'r rhan fwyaf o'u cleifion yn fregus ac yn oedrannus a heb archwaeth i fwyta llawer o ddim, a phe bai'r hyn y maent yn ei fwyta'n fwy maethlon, efallai y byddai hynny'n cyflymu eu hadferiad ac yn eu cael allan o'r ysbyty yn gyflymach. Wrth siarad â maethegydd a phennaeth arlwyo bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro, roeddent yn pwysleisio eu bod eisiau prynu llysiau a ffrwythau cynaliadwy lleol wrth gwrs, lle bo hynny'n bosibl, ac mae hynny yn y contract Cymru gyfan ar gyfer ffrwythau a llysiau i wasanaethau ysbytai. Ac mae ansawdd yn rhan fawr o'u gofyniad cyffredinol am gynnyrch, ac maent yn gofyn am enghreifftiau o'r cynhyrchion y maent yn eu prynu. Maent bellach yn prynu eu holl ffrwythau a llysiau ffres gan gwmni sydd wedi'i leoli ym marchnad Bessemer Road, sef yr un a gafodd y sgôr uchaf ond un os cofiwch. Felly, mae hynny'n newyddion da iawn. Ond wrth gwrs, nid yw'r cynnyrch y maent yn ei werthu o reidrwydd yn cael ei dyfu yn y DU, ac mae'n anodd iawn olrhain pryd yn union y cafodd ei gasglu a faint o ddirywiad a fu yn y bwyd ers hynny.
Mae'r safonau bwyd ar gyfer ysbytai yn rhoi manylebau maetholion ar gyfer bwydlenni ysbytai, fel y byddech yn ei ddisgwyl, ac mae gan bob ysbyty yng Nghymru fandad i gydymffurfio â hwy. Ond oherwydd bod cleifion ysbyty yn sâl a'u lefelau maethol yn isel yn gyffredinol, tueddir i roi mwy o bwyslais ar faint o brotein a chalorïau y maent yn ei fwyta, yn ogystal ag annog pobl i fwyta drwy ddarparu eitemau ar y fwydlen sy'n edrych yn ddymunol neu rai y maent wedi arfer â hwy. Roedd yn ddiddorol iawn clywed bod maethegwyr wedi darparu canllawiau arlwyo newydd i ysbytai ar gyfer y dyfodol, ac wedi'u cyflwyno i'r prif nyrs, ac mae dwy flynedd wedi mynd heibio ers iddynt glywed a fydd y safonau diwygiedig drafft hyn yn cael eu cymeradwyo. Ac wrth gwrs, mae angen cymeradwyaeth weinidogol, byddwn yn dychmygu, oherwydd bydd costau ynghlwm wrthynt.
Rwyf am orffen gyda hanesyn am ymweliad diweddar â chanolfan gofal dementia, lle'r oedd cogydd cwbl wych â chanddo gymwysterau uchel iawn yn gweithio—cyn hynny bu'n athro mewn coleg arlwyo. Ac roedd y bwyd ffres a gynhyrchai yn cael ei werthfawrogi'n fawr gan y bobl â dementia, oherwydd mae blas yn un o'r synhwyrau a gollwn yn olaf pan fyddwn yn dechrau colli ein synhwyrau wrth dyfu'n hen. A gwyddom fod bwyta'n dda yn eich helpu i aros yn gorfforol ac yn feddyliol iach, a dyna pam y mae gennym y canllawiau bwyta'n iach yn ein mannau cyhoeddus ac yn ein prosesau caffael cyhoeddus.
Ac felly, i grynhoi, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych ar ddwysedd maethol llysiau a ffrwythau sy'n cael eu prynu ar gyfer ein hysgolion, ein hysbytai a'n cartrefi gofal er mwyn sicrhau bod iechyd pobl y wlad hon mor dda â phosibl ac yn enwedig y rhai yr ydym yn gyfrifol amdanynt, ac y bydd hyn yn ysgogi dadl lawer mwy eang ymysg y cyhoedd am yr hyn y dylent fod yn edrych amdano pan fyddant yn siopa, oherwydd mae dyfais llaw yn cael ei datblygu yn yr Unol Daleithiau i alluogi siopwyr i fesur dwysedd maethol unrhyw beth y credant y byddant yn ei brynu. Felly, mae hyn yn rhywbeth sy'n mynd i chwarae rhan gynyddol yn y drafodaeth ynglŷn â sut i gadw'n iach gyda'r bwyd a fwytawn. Diolch.