Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 22 Medi 2021.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i barhau ac adeiladu ar y cymorth a'r gwasanaethau a ddarperir i'n cyn-filwyr yng Nghymru. Ceir manylion ynglŷn â'n gwaith a'n cynnydd parhaus yn ein trydydd adroddiad blynyddol ar gyfamod y lluoedd arfog, a gyhoeddwyd ar 22 Mehefin.